Grwpiau Ffocws Ar-lein Anghydamserol wedi’u Cymedroli (AOFG)
Grwpiau Ffocws Ar-lein Anghydamserol wedi’u Cymedroli (AOFG)
Helpu i Wella Gofal Diwedd Oes i Bobl ag Anableddau Dysgu
Pam mae eich llais chi’n bwysig:
Gyda chefnogaeth Marie Curie, ein nod yw archwilio'r heriau o ran darparu gofal diwedd oes amserol i bobl ag anableddau dysgu, yn enwedig pan nad oes ganddynt ganser na dementia. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl ag anableddau dysgu yn marw o’r ddau salwch yma. Hoffem glywed am eich profiadau yma fel y gallwn feithrin dealltwriaeth o'r heriau penodol sy'n eich wynebu a'r hyn a allai fod yn argymhellion defnyddiol a realistig ar gyfer ymarfer. Y ffordd orau i ni wneud hyn yw dysgu gennych chi.
Gall eich safbwyntiau chi helpu i ddylanwadu'n uniongyrchol ar ganllawiau cenedlaethol a hyfforddiant yn y dyfodol.
Rydym eisiau deall y canlynol:
Sut mae pobl yn sylweddoli y gallai rhywun fod yn agosáu at ddiwedd ei oes, dangosyddion diwedd oes.
Pa offer, fframweithiau, neu ddulliau a ddefnyddir, ac i ba raddau y maent yn ddefnyddiol wrth eu cymhwyso i bobl ag anableddau dysgu.
Beth yw'r heriau a wynebir yn y maes ymarfer hwn?
Beth sydd wedi helpu neu fyddai'n helpu i wella ymarfer.
Pwy sy'n cael cymryd rhan:
Rydym yn croesawu cyfraniad y canlynol:
Meddygon Teulu
Gweithwyr iechyd anabledd dysgu proffesiynol
Ymarferwyr gofal diwedd oes mewn lleoliadau arbenigol neu gymunedol
Os nad ydych chi'n credu bod y categorïau hyn yn cwmpasu eich arbenigedd ond eich bod chi'n teimlo bod gennych chi gyfraniad i'w wneud, cysylltwch â ni.
Sut gallwch chi helpu:
Ymunwch â'n grŵp ffocws ar-lein anghydamserol, wedi'i gymedroli (AOMFG) ac ymwneud ag eraill yn unol â’ch amserlen eich hun, mewn ffordd debyg i gyfrannu at fforwm proffesiynol preifat. Mae cymryd rhan yn hyn yn gyfrinachol ac yn ddienw
Mae hyn yn golygu:
Dim cyfarfodydd byw nac amseroedd sefydlog
Mewngofnodi ar amser sy'n gyfleus i chi
Cymryd rhan mewn trafodaethau byr, myfyriol bob pythefnos
Tua 15 munud yr wythnos ar y mwyaf, dros 2-3 mis
Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn aros yn ddienw, yn ddiogel, ac wedi'u cymedroli.
A fydd yr AOMFG yn cael ei wneud yn ddienw?
Bydd, bydd yr holl bostiadau rydych chi'n eu hysgrifennu yn cael eu gwneud gan ddefnyddio'r enw defnyddiwr rydyn ni'n ei roi i chi. Ni fydd unrhyw ddefnyddwyr eraill yn gallu ei olrhain yn ôl atoch chi. Dim ond y tîm ymchwil fydd yn gwybod eich bod chi'n rhan o'r grŵp.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Ymateb i gwestiynau trafod fydd yn cael eu postio bob pythefnos.
Darllen a gwnewch sylwadau ar bostiadau eraill pryd bynnag y dymunwch.
Rhannu eich profiad ar gyflymder sy'n gweithio i chi.
Hepgor unrhyw gwestiwn os oes angen.
Byddwch yn cael tystysgrif DPP os hoffech chi.
Bydd cymorth technegol a chanllaw cynefino syml yn cael ei ddarparu.
Rhagor o wybodaeth:
Am ragor o wybodaeth am y grwpiau AOMFG a'r hyn fyddai hynny'n ei olygu, cliciwch YMA.
Barod i gymryd rhan?
Gall eich profiad chi helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella gofal diwedd oes i grŵp y mae ei anghenion yn aml yn cael eu hanwybyddu. Cliciwch isod i gofrestru ar gyfer ein cofrestr diddordeb.