Croeso i wefan y Ready Study. Yma cewch wybodaeth am ein hastudiaeth ymchwil, cyfle i gofrestru'ch diddordeb os hoffech gymryd rhan, neu’r manylion diweddaraf am sut mae pethau’n mynd.
Ymunwch â'n rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd a'n canfyddiadau.
Mae'r Ready Study yn canolbwyntio ar wella mynediad at ofal da ar ddiwedd oes i bobl ag anableddau dysgu yn y DU.
Hoffem siarad ag aelodau’r teulu a gofalwyr cyflogedig am farwolaeth person ag anabledd dysgu roedden nhw'n ei adnabod yn dda, na wnaeth farw o ganser neu ddementia. Hoffem ddysgu a deall beth ddigwyddodd ar ddiwedd oes y person hwnnw.