E-bost
stuart.todd@southwales.ac.uk
Rydyn ni'n casglu neu'n defnyddio'r wybodaeth ganlynol at ddibenion diweddariadau gwybodaeth neu farchnata:
· Enwau a manylion cyswllt
· Cofnodion o gydsyniad, lle bo'n briodol
Rydyn ni'n casglu neu'n defnyddio'r wybodaeth ganlynol at ddibenion recriwtio:
· Manylion cyswllt (e.e. enw, cyfeiriad, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost personol)
Dan gyfraith diogelu data y DU, mae'n rhaid i ni gael "sail gyfreithlon" ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mae rhestr o seiliau cyfreithlon posibl yn GDPR y DU. Mae rhagor o wybodaeth am seiliau cyfreithlon ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Gall y sail gyfreithlon rydyn ni'n dibynnu arni effeithio ar eich hawliau diogelu data a nodir yn gryno isod. Gallwch ddysgu mwy am eich hawliau diogelu data a'r eithriadau perthnasol posibl ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
· Eich hawl i fynediad - Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol gennym. Gallwch ofyn am wybodaeth arall, fel manylion am ble rydyn ni'n cael gwybodaeth bersonol ac â phwy rydyn ni'n rhannu gwybodaeth bersonol. Mae yna rai eithriadau sy'n golygu na fyddwch o bosibl yn derbyn pob gwybodaeth rydych chi'n gofyn amdani.Rhagor o fanylion yma..
· Eich hawl i gywiro - Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro neu ddileu gwybodaeth bersonol rydych chi'n meddwl sy'n anghywir neu'n anghyflawn. Rhagor o fanylion yma.
· Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol.Rhagor o fanylion yma..
· Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar sut y gallwn ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol.Rhagor o fanylion yma.
· Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol.Rhagor o fanylion yma.
· Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roddwyd gennych i sefydliad arall, neu i chi.Rhagor o fanylion yma.
· Eich hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl – Pan fyddwn ni'n defnyddio cydsyniad fel ein sail gyfreithlon, mae gennych hawl i dynnu'ch cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.Rhagor o fanylion yma.
Os byddwch chi'n gwneud cais, rhaid i ni ymateb i chi heb oedi gormodol ac o fewn mis.
I wneud cais dan yr hawliau diogelu data, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar frig yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Ein seiliau cyfreithlon ar gyfer casglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol at ddibenion diweddaru gwybodaeth neu farchnata yw:
· Cydsyniad - rydyn ni wedi cael eich caniatâd ar ôl i ni roi'r holl wybodaeth berthnasol i chi. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio'r hawl i wrthwynebu. I fod yn glir, mae gennych chi hawl i dynnu'ch cydsyniad yn ôl unrhyw bryd.
Ein seiliau cyfreithlon ar gyfer casglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol at ddibenion recriwtio yw:
· Cydsyniad - rydyn ni wedi cael eich caniatâd ar ôl i ni roi'r holl wybodaeth berthnasol i chi. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio'r hawl i wrthwynebu. I fod yn glir, mae gennych chi hawl i dynnu'ch cydsyniad yn ôl unrhyw bryd.
Yn uniongyrchol gennych chi.
Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth ar weinydd diogel y brifysgol am ddwy flynedd ar ôl diwedd yr astudiaeth. Bydd y data'n cael ei ddileu ar ôl hyn. Ni fyddwn yn rhannu'r data gydag unrhyw sefydliad arall nac yn ei ddefnyddio at unrhyw ddibenion eraill heblaw'r un y cawsom ganiatâd ar ei gyfer.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am ein defnydd o'ch data personol, gallwch gyflwyno cwyn i ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar frig yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Os ydych chi'n dal yn anhapus â'r ffordd y gwnaethom ni ddefnyddio'ch data ar ôl codi cwyn gyda ni, gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwefan: https://www.ico.org.uk/make-a-complaint
9 Ebrill 2025