Sut yr hoffem i chi ein helpu ni:
Hoffem siarad ag aelodau’r teulu a gofalwyr cyflogedig am farwolaeth person ag anabledd dysgu roedden nhw'n ei adnabod yn dda, na wnaeth farw o ganser neu ddementia. Hoffem ddysgu a deall beth ddigwyddodd ar ddiwedd oes y person hwnnw.
Byddwn yn trefnu sgwrs gyda chi i drafod pob dim am yr astudiaeth.
Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod hwn yn bwnc sensitif iawn i chi ond byddem yn eich cefnogi drwy'r broses. Byddai’r cyfan yn teimlo fel sgwrs.
Hoffem ddefnyddio'r wybodaeth y gallech chi ac eraill ei rhoi i ni i wella'r gofal mae pobl ag anableddau dysgu yn ei dderbyn ar ddiwedd oes.
Pwy all gymryd rhan:
Hoffem siarad ag aelodau’r teulu a gofalwyr cyflogedig am farwolaeth person ag anabledd dysgu roedden nhw'n ei adnabod yn dda, ac a fu farw o leiaf 6 mis yn ôl, ond dim mwy na 3 flynedd yn ôl.
Ar gyfer yr astudiaeth hon, mae gennym ddiddordeb mewn siarad â pherthnasau a gofalwyr cyflogedig pobl na wnaeth farw o ganser neu ddementia.
Sut y gallwch chi helpu:
Hoffem i chi siarad ag aelod profiadol o'r tîm ar-lein neu dros y ffôn am tua 45 - 60 munud. Yn ystod y cyfweliad hwn, byddan nhw’n gofyn i chi am eich profiadau o'r hyn a ddigwyddodd ar ddiwedd oes yr unigolyn dan sylw.
Cyn cynnal y cyfweliad, byddwn yn trafod yr astudiaeth gyda chi ac yn anfon gwybodaeth fanylach atoch. Yna byddwn yn gofyn i chi gydsynio i gymryd rhan. (Mae rhagor o fanylion ar gael yma.)
Bydd y cyfweliad yn cael ei drefnu ar amser cyfleus i chi. Byddwn yn sicrhau bod yr holl broses yn barchus ac yn hygyrch i bawb sy'n cymryd rhan.
A fydd y cyfweliad yn ddienw?
Bydd yr holl wybodaeth rydych chi'n ei rhannu gyda ni yn aros yn gwbl ddienw. Fydd dim modd olrhain y wybodaeth yn ôl i chi.
Rhagor o wybodaeth:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses gyfweld, gall aelodau'r teulu glicio YMA, a gall staff gofal cyflogedig glicio YMA.
Defnyddiwch y botymau isod i agor ein ffurflen gofrestru ar-lein: