Trefniadau Dilysu CNPT
Trefniadau Dilysu
Bwriad y broses dilysu yw eich gwobrwyo fel ysgol ac mi fydd trefn y diwrnod dilysu yn hollol agored ond mi fydd gan y broses disgwyliadau sylfaenol (isod).
O ran trefn diwrnod dilysu gyda Swyddog y Gymraeg, gallwch gynllunio diwrnod yn debyg i hyn:
Gwasanaeth Criw Cymraeg/Siarter Iaith (Cynnwys Sylfaenol)
Taith o amgylch yr ysgol (Clywed Cerddoriaeth Cymraeg/Systemau Gwobrwyo'r Gymraeg /Gweld gwaith dysgwyr/arddangosfa'r Siarter a.y.b) (Cynnwys Sylfaenol)
Cyfarfod gyda'r Criw Cymraeg - cyflwyniad ar waith y Siarter yn yr ysgol (Cynnwys Sylfaenol)
Cyflwyniadau gan y Criw Cymraeg ar waith Siarter yr ysgol (Cynnwys Arian ac Aur)
Cyfarfod gyda'r Arweinydd Siarter Iaith, UDR a Llywodraethwyr Siarter yr ysgol i edrych ar hunanarfarniad a gwerthusiad yr ysgol + (Cynnwys Efydd, Arian & Aur)
Gweld a chlywed darpariaeth yr iaith Gymraeg e.e. Sesiynau Drilio Disglair a Sgleinio ein Sgwrsio ar waith (Cynnwys Arian & Aur)
Gweld y Criw Cymraeg yn arwain Gemau Buarth Cymraeg (Cynnwys Efydd, Arian ac Aur)
Cam 1 Dilysu: Yr ysgol i hunanarfarnu (gan ddefnyddio'r ffurflen gwerthuso & hunanarfarniad o Swyddog y Gymraeg)
Cam 2 Dilysu: Swyddog y Gymraeg i asesu'r ysgol
Cam 3 Dilysu: Y Cymeradwyo & dathlu llwyddiant!
Sylwch: cyn eich dilysu, mi fydd angen ymweliadau gan Swyddog y Gymraeg.