disgwyliadau clwstwr/arfer dda
Ydych chi'n gwobrwyo a dathlu llwyddiant targedau ysgol ar lefel ysgol gyfan?
Ydy'ch dysgwyr yn gwybod Can Siarter Iaith y Clwstwr - Tanio'r Ddraig? Beth am yr Anthem Genedlaethol?
SIART CAMAU TUA'R COPA/Tanio'r ddraig
Rydym yn annog ein holl ysgolion i arddangos targedau Siarter yr ysgol ar siart Camau Tua'r Copa yn yr ystafelloedd dosbarth, coridorau a'r neuaddau.
Bwriad y siart yw codi ymwybyddiaeth o dargedau ond hefyd i WOBRWYO llwyddiant dysgwyr a dosbarthiadau.
DATA HOLIADURON iaith
Rydym yn annog ein holl ysgolion i weithredu'r holiaduron yn gyson ac i arddangos DATA gwe iaith holiaduron y Siarter Iaith yn y dosbarthiadau, coridorau a'r neuaddau.
Bwriad y data yw i gynorthwyo datblygiad y Siarter Iaith yn yr ysgol wrth gynorthwyo ysgolion i bennu targedau a gweithdrefnau cadarnhaol er mwyn diwallu anghenion penodol.
Llais y dysgwr/criw cymraeg
Elfen hollbwysig o'r Siarter yw Llais y Dysgwyr.
Rydym yn annog ein holl ysgolion i ddatblygu Criw Cymraeg/Criw Llysegenhadon Iaith er mwyn gyrru datblygiad y Siarter Iaith ar lawr yr ysgol.
Oes gyda chi arddangosfa Siarter Iaith cyfredol?
Ydych chi wedi datblygu arwyddair neu weledigaeth Siarter Iaith i'r ysgol?
Gemau Buarth - ydy'ch dysgwyr yn chwarae gemau buarth Cymraeg yn ystod amseroedd chwarae?
Mae hyn yn hynod o bwysig er mwyn meithrin dysgwyr sydd yn gallu cydweithio a mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg.