Ein Siarter Iaith

'tANIO'R dDRAIG' 


YW ENW EIN sIARTER YNG nGASTELL NEDD PORT TALBOT




Ein nod fel ysgolion yw ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau.




Gyda'r gobaith y bydd ein holl blant a phobl ifanc yn…


Y Siarter Iaith yma


Mae Clwstwr Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn gwasanaethu dysgwyr o dalgylch eang sy’n ymestyn o Frynaman yn y gorllewin i Gwmafan yn y dwyrain yn ogystal ag ardaloedd o dde Powys, dwyrain Sir Gaerfyrddin a gogledd Dinas a Sir Abertawe. O fewn y clwstwr ceir ardaloedd diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol helaeth ynghyd â phentrefi gwledig ac er y daw mwyafrif y dysgwyr o drefi Castell-nedd a Phort Talbot, cynhwysir hefyd nifer o blant o drefi llai a phentrefi gwledig yn yr ardal gyfagos.

Mae darlun ieithyddol y clwstwr yn un cyfoethog tu hwnt gyda phlant a phobl ifanc yn meddu ar dafodieithoedd amrywiol prydferth. Clywir patrymau ieithyddol llafar ymysg y dysgwyr sydd angen eu gwarchod ac ein nod yw i adeiladu balchder a hyder plant yn eu Cymraeg.

Rydym yn eithriadol o ddiolchgar am gydweithrediad a chymorth Cyngor Sir Gwynedd a’u swyddogion am eu cymorth wrth lunio ein Siarter nol yn 2014 (ar ddechreuada'r Siarter!). Yn awr, mae'r Siarter Iaith wedi mynd o nerth i nerth ac mae'n rhan o genhadaeth ieithyddol ein gwlad. Rydym dal i gydnabod y gwaith arloesol a wnaethpwyd gyda phenaethiaid ac ysgolion Gwynedd, fel ein bod yn gallu dilyn eu harferion da ac addasu’r weledigaeth ar gyfer cyd-destun ein hysgolion yma yn Sir Castell Nedd Port Talbot heddiw!