Mae dresage yn fath o gystadlaeaeth sydd yn gylygu mae'r ceffyl yn dawnsio i gân arbennig i dderbyn pwyntiau. Y ceffyl sydd yn derbyn y mwyaf o bwyntiau sydd yn ennill.
Mae neidio yn golygu pan mae ceffyl yn gorfod neidio dros gwrs yn yr amser lleiaf posib. Cyn dechrau mae angen i chi drio cwbwlhau'r cwrs heb daro un o'r polion i lawr mae hwn yn cael ei alw yn rownd glir.
Pwrpas sioe ceffylau mewn llaw yw i ddangos eich ceffyl i ffwrdd yn y ffordd gorau posib. Mae angen i chi gerdded a throtian yn y gystadleuaeth yma a'r ceffyl sydd yn symud ac yn edrych y gorau sydd yn ennill.
Mae traws gwlad yn debyg i neidio ond mae'r cwrs yn enfawr ac yn mynd o amgylch cefn gwlad yn hytrach na'r cylch. Rhaid i'r ceffylau neidio dros wrychoedd a charlamu trwy ddŵr. Y ceffyl cyflymaf sydd yn ennill ond mae angen bod yn ddewr ac yn gryf i allu aros ar gefn y ceffyl.
Cyn mynd i'r sioe mae angen gwneud yn siwr bod eich cyfrwy, yr awenau a'ch ceffyl yn lan iawn. Y noson cyn y sioe gwnewch yn siwr eich bod yn mynd i'r gwely yn gynnar a chael noson dda o gwsg!
Er mwyn cael sglein cyn sioe pan ydych chi'n molchi'r ceffyl rhowch finegr arnyn nhw. Peidiwch a phoeni dydy finegr ddim yn brifo croen y ceffyl. Mae hefyd olew arbenig i roi ar garnau'r ceffyl sydd yn gwneud iddyn nhw sgleinio'n ddi ddiwedd. Wyddoch chi mae colur ar gael i geffylau?
Pan fyddwch chi'n cystadlu mae'n bwysig nad ydych chi yn mynd yn rhy agos at y ceffyl o'ch blaen. Mae nhw yn gallu cicio! Rhaid hefyd gwisgo siaced frethyn, tei a gwisgo rhuban yn eich gwallt os ydych yn ferch. Mae merched hŷn angen clymu eu gwallt yn ôl mewn bynsen a gwiso rhwyd gwallt.
Os mae rhywun yn eich curo cofiwch eu llongyfarch er mwyn bod yn barchus! Mae hyn yn holl bwysig.
Rhaid paratoi'r lori y noson gynt. Mae angen gwneud yn siwr bod gennych chi ddigon o fwyd a dŵr i'r ceffyl. Mae angen twsli ar y llawr a rhwyd o wair iddynt fwyta ar y daith. Mae'n syniad da i gael ffenest ar agor os ydy hi'n boeth. Rhaid gyrru yn araf a pheidio a chornelu'n gyflym i amddiffyn coesau'r ceffyl.