Mae'r Shetlands yn dod o Ynysoedd Shetland ac mae nhw yn addas iawn i blant bach fel ceffyl cyntaf. Ceffyl byr iawn yw'r Shetland gyda mwng hir trwchus a chorff bach cadarn. Cymerwyd 1850 o Shetlands i Lloegr i weithio mewn mwyngloddiau. Wyddoch chi hyn o'r blaen?
Mae'r ceffyl gwedd yn fawr iawn ac yn yr hen ddyddiau roedden nhw yn cael eu defnyddio i ffermio a thynnu pethau trwm. Daeth y ceffyl gwedd o America yn 1853. Mae ceffylau gwedd yn gallu byw hyd at 25 i 30 mlwydd oed ac maent yn geffylau cryf a charedig i bobl. Maent yn dda gyda phlant ac yn gallu pwyso hyd at 850 i 1100 Kg!
Mae ceffylau Cymreig yn gryf ac maen't yn berffaith i gystadlaethau marchogaeth. Cafodd ceffylau Cymreig eu defnyddio mewn mwyngloddiau i dynnu certiau llawn glo. Coeliwch chi fyth eu bod nhw arfer mynd â'r ceffylau allan o'r mwyngloddiau am un wythnos bob blwyddyn! Roedd y rhan fwyaf yn ofni'r goleuni! Am fywyd erchyll.
Gall geffylau amrywio yn ôl lliw a phatrymau. Mae rhan fwyaf o geffylau yn frown a'r lliw mwyaf prin yw gwyn llachar iawn.
Mae gan yr Apaloosa batrymau hardd ar eu corff sydd yn denu eich sylw yn syth. Mae ganddynt goesau main hir a chorff prydferth a chyhyrog.
Mae ceffylau yn anifeiliaid cariadus a phrydferth. maent yn mamau da ac yn llawer hapusach gyda cheffylau eraill nac ar ben eu hunain. Yn y gwyllt mae ceffylau yn byw mewn gyr. Mae stalwyn yn gwylio am berygl wrth i'r gweddill fwyta mewn heddwch. Os fydd perygl yn dod fydd un o'r ceffylau yn aros nol wrth i'r gweddill redeg i ffwrdd. Mae eu coesau hir a chadarn yn eu galluogi i redeg yn gyflym er mwyn osgoi peryglon. Er hyn maent yn anifeiliaid clyfar iawn. Wyddoch chi, dydy ceffylau byth yn anghofio? Os ydych chi yn garedig efo ceffyl dydyn nhw byth yn eich anghofio.
Mae Gypsy cob yn geffyl mawr cryf, mae ganddyn nhw mwng a chynffonau trwchus a hir. Mae nhw yn cael eu defnyddio i dynnu certiau fel arfer. Maen nhw yn pwyso tua 650kg ac yn 150 i 155 cm.
Mae y Clydesdale yn geffyl mawr a chryf. Maent yn debyg iawn i geffylau gwedd. Mae Clydestales yn 162 i 183 cm o daldra ac mae nhw yn pwyso hyd at 820 i 910 kg! Mae nhw yn cael ei defnyddio i dynnu certiau ac yn y hen ddyddiau roedden nhw yn cael eu ddefnyddio i dynnu pethau trwm ar y fferm.
Mae Fresians yn dod o'r Iseldiroedd. Mae nhw yn pwyso hyd at 544 i 635 kg ac yn 155 i 173 cm. Mae Fresiands yn geffylau prydferth iawn ac mae ganddyn nhw mwng a cynffon hir. Mae ganddyn nhw got sgleiniog ac mae nhw fel arfer yn cael eu defnyddio i'w harddangos mewn sioe ac dresage sydd fel dawnsio i geffylau ac weithiau hyd yn oed i tynnu pethau ysgafn.
Mae Hanoveriands yn geffylau ddeallus a phrydferth. Mae nhw fel arfer yn cael eu ddefnyddio i dresage ac ar gyfer sioe. Mae nhw yn 160 i 175 cm o daldra neu 15.7 i 18.2 llaw ac mae nhw yn pwyso o gwmpas 650kg. Mae ganddyn nhw goesau hir a chyhyrog ac mae ganddyn nhw fwng a chynffonau hir a thrwchus.