Pan rydych chi'n brwsio mwng ceffyl mae angen i chi agosau yn araf er mwyn osgoi dychryn y ceffyl. Unwaith maen nhw'n hapus mae'r rhan fwyaf o geffylau yn mwynhau cael eu brwsio a'u mwytho.
Mae hi'n bwysig iawn i lanhau traed ceffylau er mwyn iddyn nhw fod yn gyfforddus pan mae nhw yn cerdded neu yn gwneud gwaith.
Pan ydych chi'n brwsio cynffon ceffyl mae'n bwysig i chi dechrau o'r gwaelod ar ddarn bach a chael darnau mwy a mwy ac yn y diwedd byddech chi wedi cyraedd pen y gynffon.
Pan wyt ti'n plethu cynffon ceffyl mae angen gwneud yn siwr eich bod yn dal y gwallt yn dyn. Mae pethau fel jel i roi ar gynffonau ceffyl i ddal yn blew i mewn sydd yn gwneud iddo edrych yn daclusach.
Wrth blethu mwng ceffylau mae'n bwysig eich bod yn cael maint y plethau yr un peth ar ol plethu rhesi mae angen rhoi nhw mewn i peli crwn mewn ffordd arbenig ac yna mae angen i chi wnio nhw i fewn a dyna sut i blethu mwng ceffyl.
Mae carnau ceffylau yn bwysig iawn iddyn nhw ond weithiau mae angen eu torri nhw. Yn y gwyllt pan mae nhw yn mynd ar dir caregog mae eu carnau yn aros y maint cywir. Ond sut mae pobl yn cadw eu carnau yr un maint? Mae ffarier yn dod ac mae nhw yn torri a ffeilio eu traed ac mae rhai ceffylau yn cael pedolau.
Pan ydych chi'n brwsio corff y ceffyl dydy o nid yn unig yn gwneud i'w cot sgleinio mae o hefyd yn dda i'w cylchedd gwaed. Pan daw'r gaeaf mae ceffylau yn colli eu cot trwchus ac yn tyfu un ysgafnach i'r haf. Mae brwsio yn helpu nhw i gael gwared o'r hen flew.
Wyddoch chi bod dannedd ceffyl angen cael eu trin fel eu carnau. Pan mae dannedd ceffyl yn mynd yn rhy hir maen nhw yn ffeindio hi'n anodd i fwyta, ac pan ydych chi'n marchogaeth nhw mae nhw'n gallu ymddwyn yn wael oherwydd eu bod mewn poen.
Pan rydych yn golchi cot ceffyl gwneuch yn siwr eich bod yn defnyddio shiampŵ ceffyl. Gwlychwch y got gyntaf a rhowch y siampŵ ymlaen ac rinsiwch i ffwrdd. Pan mae pobl yn mynd i'r sioe mae nhw yn rhoi finiger ar eu cot. Peidiwch a phoeni mae finiger yn dda i got geffylau ac mae o yn helpu i greu sglein cyn sioe.
Mae'r cyfrwy wedi cael ei wneud allan o ledr ac mae'n bwysig cadw'r lledr yn lan er mwyn arbed o rhag torri. Mae o hefyd yn bwysig bod y cyfrwy yn ffitio'r ceffyl yn gywir neu mae o yn brifo eu cefn.
Mae ffrwyn yn mynd ar ben y ceffyl a phan ydech chi'n marchogaeth mae o'n helpu chi i gadw'r ceffyl dan reolaeth. Mae gwahanol fathau o ffrwynau ar gael ac mae rhai Americanaidd.
Wyddoch chi bod ffasiwn beth â yoga i geffylau! Mae hyn yn helpu cadw nhw yn hyblyg ac yn iach.
Mae o'n bwysig iawn cadw eich ceffyl yn iach a heb llyngerdd felly bob 6 wythnos mae angen rhoi moddion rhag llyngyr iddyn nhw sy'n lladd y llyngyr. Rhaid i'r perchennog wisgo menyg wrth roi'r moddion!
Mae ceffylau yn nofwyr cryf ac mae halen y môr yn dda iddyn nhw, mae nofio yn dda i esgyrn a chyhyrau. Mae pobl yn mynd a cheffylau ar y traeth weithiau ac mae clinigau ar gael iddyn nhw fynd i nofio.
Mae'n bwysig iawn bod ceffylau yn cael rhedeg yn rhydd weithiau er mwyn cael gwared o'u holl egni. Os ydyn nhw treulio gormod o amser yn y stabl gallan nhw ddechrau dangos problemau ymddygiad e.e cnoi drysau, siglo o ochr i ochr a chicio drysau.
Mae'n hanfodol iddynt cael y cyfle i redeg yn rhydd yn gyson.