Yn y gwyllt mae ceffylau angen ffeindio bwyd i'w hunain. Ond beth maen nhw yn bwyta? Mae gan geffylau flew o amgylch eu cegau sydd yn cael ei ddangos yn y llun. Mae nhw yn defnyddio rhain i wybod pa fath o fwyd mae nhw yn bwyta, i weld os yw o'n wenwynig neu ddim. Yn y gwyllt mae ceffylau yn bwyta amrywiaeth o blanhigion.
Mae Twca yn dda iawn i geffylau. Mae o yn stopio eu coesau rhag chwyddo ac mae o yn tyfu mewn llawer o lefydd.
Mae ceffylau hefyd yn bwyta danadl poethion. Pwrpas danadl poethion yw i gwella iechyd gwaed ceffylau, a stopio poen yn bol.
Mae dant y llew yn dda iawn i geffylau .Mae nhw yn dda iawn i'w bol ac mae o yn arbed eu coesau rhag chwyddo.
Mae llygad y dydd yn dda iawn i geffylau mae o'n dda i cegau ceffylau mae nhw yn stopio dolurau.
Mae Mintys yn blasu'n hyfryd ac mae o yn gwneud eu bwyd yn flasus. Mae pob ceffyl wrth eu boddau pan ddaw'r bwyd!
Planhigion gwenwynig i geffylau!
Mae mes yn wenwinig iawn i geffylau. Os bydd ceffyl yn bwyta un mae o yn iawn ond os mae o yn bwyta llawer bydd o yn cael poen yn bol ofnadwy sydd yn gallu eu lladd.
Mae ywen yn wenwynig iawn i geffylau nid yn unig mae'r eirin, mae'r dail a'r rhisgl i gyd yn wenwynig!
Dydy'r blodyn menyn ddim yn dda i geffylau. Coeliwch chi fyth ond mae'n llosgi eu cegau. Mae o hefyd yn rhoi colic iddyn nhw!
Mae cynffon y gath yn gwenwyno ceffylau yn araf iawn ond diolch byth mae pobl wedi darganfod ffordd i wella'r ceffyl sydd yn sâl.
Mae rhododendron gwyllt yn wenwynig i geffylau hefyd. Mae'n rhoi dolur rhydd i geffylau ac yna maen nhw yn llewygu ac weithiau yn marw!
Fitaminau a ffisig naturiol
Mae coeden helygen yn dda iawn i geffylau ac mae o yn ffisig naturiol ac hi'n helpu nhw i deimlo'n well
Mae rosehips yn dda iawn i bobl a cheffyau oherwydd mae llawer o fitamin C ynddyn nhw ac mae o yn helpu arennau a pherfedd ceffylau.
Mae aeron du yn dda i geffylau oherwydd mae ganddyn nhw llawer o fitaminau fel fitamin C, fitamin K a fitamin E.
Mae garlleg gwyllt hefyd yn dda i geffylau mae o'n stopio gwybed rhag glanio arnynt ac mae o yn helpu eu perfedd. Mae geffylau yn gallu cael lympiau poenus ar eu coesau ac mae gwybed mawr yn dodwy wyau melyn ar eu cot sydd yn tyfu i mewn i'w stumog ac mae garleg gwyllt yn helpu stopio hyn rhag digwydd.