Mae pigiadau yn bwysig i ddefaid, gwartheg, geifr, moch, ceffylau ac ieir. Os oes gan un o'r anifailiaid afiechyd neu salwch mae'n rhaid rhoi pigiad iddyn nhw, ac yna gobeitho bydden nhw yn gwella.
Mae'n bwysig bod gan anifeiliaid tagiau oherwydd os rydych chi eisiau cymryd eich defaid, gwartheg neu foch i sioeau neu am geisio eu gwerthu yn y farchnad mae'n rhaid cael tagiau yn eu clustiau neu weithiau mae y pobl sydd yn rhedeg y farchnad yn gyrru eich defaid adre. Mae'n bwysyg rhoi nod clust i'r defaid oherwydd mae'n haws adnabod eich defaid ar y mynydd neu ar yr ucheldir. Nod clust ydy pryd rydych chi'n torri darn bach o glust defad allan ac wedyn mae pawb yn gwybod bod mai chi yw perchennog y ddafad/maharen yna.
'
Mae hi'n bwysig i roi pitch neu chwistrelliad lliw ar y ddafad. Rhaid iddo fod mewn safle gwahanol neu yn lliw gwahanol i'r ffermwyr drws nesaf. Mae rhai yn rhoi eu blaenlythrennau lliw ar y ddafad. Mae pitchio hefyd mor bwysig â nod clust. Mae pitch fel eich bod chi yn gallu adnobod eich defaid. Os bydd eich defaid wedi cymysgu byddech chi yn gwbod mai chi sydd bia nhw. Mae'n angenrheidiol rhoi nodau clust ac/neu pitch i ddefaid sydd yn byw/aros ar y mynydd.
Mae hi'n bwysig dipio eich defaid oherwydd mae nhw yn gallu dal y clafr, neu 'scab' yn Saesneg. Mae'r clafr yn gallu lladd defaid. Os dydych chi ddim yn edrych ar ôll eich defaid ac ddim yn eu dipio bydden nhw yn marw. I wybod os oes ganddyn nhw'r clafr bydden nhw yn crafu ac bydden nhw yn colli eu gwlân. Mae dip yn beryglus oherwydd mae'n cynnwys cemegion peryglus. Mae hi yn bwysig eich bod chi yn gwisgo pâr o fenig ac mae hefyd yn bwysig eich bod chi yn darllen faint o dip rydech chi yn rhoi yn y twb. Dydi plant ddim yn cael mynd yn agos at y cemegyn dip ac mae hi yn berygus iawn i blant. I drochi defaid mae'n rhaid cael ticed dipio a'r offer cywir a saff. Os does gennych chi ddim yr offer cywir mae'n rhaid prynu y pethau cywir.
Mae rhai pobl yn bandiau disbaddiad ar gynffonau'r wŷn fel bod eu cynffonau yn cwympo i ffwrdd yn araf bach. Hefyd mae angen iodin i roi ar eu bogel. Mae hynny yn stopio wŷn rhag cael heintiau ar eu bogel. Maen nhw yn gallu marw os dydych chi dim yn gwneud dim byd. Hefyd mae rhai pobl yn rhoi marciwr i rifo'r wŷn a'r defaid mae nhw yn perthyn i. Mae gan bob oen a'i fam yr un rhif. Yn ogystal, mae hi'n bwysig cael colostrwm i fwydo'r wŷn. Os ydy mam yr oen wedi marw neu os ydy'r oen yn rhan o dripled mae angen tynnu un oen i ffwrdd a bwydo yr oen gyda photel. Mae angen botel hefyd i fwydo yr wŷn. Mae hi yn angenrheidiol i gadw yr wŷn yn gynnes i'w hatal rhag cael hypothermia.