Bridiau Ieir
Mae'r iâr goch 'Warren' yn boblogaidd iawn yn y siediau mawr dodwy gan ei bod yn dodwy yn gyson. Mae'r ieir yma yn gadael y siediau yn dair mis ar bymtheg oed ac yn cael eu hailgatrefu.
Iâr Pwyleg
Buasech chi yn meddwl eu bod nhw yn dod o Wlad Pwyl ond mae'r brid trawiadol yma yn dod o'r Iseldiroedd yn Ewrop. Mae nhw yn cael eu hadnabod gyda'r plu ar eu pennau.
Iâr Bantam du
Mae'r bantam yn boblogaidd iawn ac mae llawer o fathau ohonynt. Dyma'r bantam du. Mae yna dri math gwahanol o iâr bantam.
Mae iar sussex yn iâr iach sy'n cael ei hadnabod gan lawer o bobl ac mae llawer o fathau ohonynt. Mae nhwn yn dod o Sussex.
Iâr Padovana
Mae'r iâr Padovana yn iâr anghyffredin ac mae ganddi blu sy'n glynu ac efallai eich bod chi'n meddwl nad ydyn nhw yn gallu gweld, ond wir i chi, mae nhw'n gallu!
Iâr Brahma
Mae'r iâr Brahama yn dodwy yn wych ac yn gallu byw mewn llawer o lefydd. Mae'r iâr yma yn brin iawn.
Mae'r 'Rhode Island Red' yn dodwy yn wych ac yn boblogaidd. Maen nhw yn dod yn wreiddiol o Unol Daleithau America. Maen nhw yn olygus iawn.
Mae'r Silkie yn iâr sydd yn wahanol i lawer oherwydd does ganddi ddim crib.
Mae 'Crib Goch' y llwybr beryglus i fyny'r Wyddfa yn cael ei enwi ar ol crib goch yr ieir. Dydyn ni ddim yn credu y byddai'r iâr yma yn goroesi ar Crib Goch!
Efallai eich bod chi yn meddwl bod y llun yma wedi cael ei addasu, ond wir i chi, nid oes gan yr iâr yma crib goch. Mae'r iâr yma yn wahanol i'r ieir eraill i gyd gan fod ganddi crib ddu.
Iâr Gwddf Noeth
Mae'r iâr gwddf noeth yn edrych yn wahanol iawn i ieir cyffredin!
Mae'r iâr noeth yn oer iawn yn y gaeaf ac mae angen ei rhoi yn y sied gyda lamp i'w chadw yn gynnes.
Mae'r iâr leghorn yn edrych yn drawiadol. Mae gan ieir leghorns arferol blu gwyn. Mae leghorns yn boblogaidd iawn a hefyd yn smart.
Iâr Orpington
Mae gan yr iâr plu tywyll hardd iawn. Mae yna fwy nag un math o orpingtons ond dyma y fwyaf poblogaidd.
Mae ieir onagadori yn cael eu hadnabod gan eu plu cynffon enfawr. Mae ganddyn nhw gynffon hir sydd yn achosi afiechydon.
Mae ieir fel arfer yn cael eu ffermio mewn siediau mawr o 32,000 neu fwy o ieir. Mae'r ffermwr unai yn gwerthu'r wyau neu mae nhw yn cael ieir o'r enw brwyliaid sydd yn cael eu ffermio mewn sied am ryw bedwar deg o ddyddiau. Ar ôl y cyfnod yma maen nhw'n mynd i'r lladd-dy ac yn cael eu lladd er mwyn cyflenwi cig i'r cyhoedd.