Mae peiriannau yn bwysig i redeg fferm a symud pethau o gwmpas ar y ffarm. Dyna beth fyddwn yn sôn amdano ar y dudalen hon.
Tractorau.
Mae tractorau yn bwysig i gael plannnu bwyd i'r wlad ac i gael symyd pethau o gwmpas. Mae yna wahanol fathau o dractorau i gael.
FIAT
Mae yna hefyd lawer o fathau eraill o dractorau. Ond rŵan rydym yn sôn am beiriannau gwahannol sydd yn bwysig yn yr haf neu yn y gaeaf.
Mae'r dyrnwr yn bwysig yn yr haf i gael casglu'r cnydau ac u'w cael nhw mewn o'r caeau i'r ffatrioedd neu'r felin i wneud blawd neu bara.
Mae'r cynaeafwr yma yn bwysig yn yr haf a'r hydref. Yn yr haf mae'n cynaeafu'r glaswellt i wneud silwair. Yn yr hydref mae'n cynaeafu'r india-corn.
Dyma'r peiriannau fferm diweddaraf (fideo i ddangos ar y botwm)
Rydym rŵan yn sôn am y bachiadau i fynd tu nôl y tractor.
Injan wair
Mae'r injan wair yn bwysig i dorri'r glaswellt yn yr haf i wneud silwair ir anifeiliaid.
Chwalwr gwair
Mae'r chwalwr yn helpu pam mae hi wedi glawio. Mae'n troi'r glaswellt fel bod yr haul yn gallu ei grasu.
Cribyn
Swydd y cribyn ydi hel yr holl laswellt neu gwair mewn i linell er mwyn i'r belar gael ei gasglu a'i droi'n fyrnau.
Belar crwn
Mae belar crwn yn hel y glaswellt ac yn ei glymu i wneud byrnau sy'n barod i gael eu storio yn y sgubor.
Yn y haf os rydech yn gwneud silwair bydd y peiriant yma yn ddefnyddiol. Rydech angen lapio byrnau silwair crwn a'u storio nhw. I unhryw un sydd yn darllen y darn hwn ac sy'n ffermwyr eich hyn, brain ydi'r un peth dydych chi ddim eisiau!! Maen nhw yn pigo'r byrnau.
Mae'r belar sgwâr yn creu byrnau sgwâr sydd yn fawr. Maen nhw'n cael eu defnyddio i roi gwely i'r anifeiliaid yn yr gaeaf ac i fwydo'r lloi.
Arad sydd yn troi'r caeau i gael nhw yn barod i'w hadu. Mae'r hadau wedyn yn tyfu'n gnwd.
Mae'r hadwr yn rhoi'r hadau yn y ddaear sy'n tyfu'n blanhigion ac yn rhoi bwyd i ni fwyta.
Gwrtaith sy'n cael ei chwalu gan y peiriant. Mae'n rhoi gwrtaith i'r planhigion a bydden nhw'n tyfu yn gyflymach ac o ansawdd gwell. Mae gwrtaith yn ddrud iawn ar hyn o bryd ac mae gormod o wrtaith yn gwneud niwed.