Mae'r mochyn yn gallu byw am 15 - 20 o flynyddoedd. Mae'n gallu cael hyd at 15 mochyn bach ar y tro. Moch yw'r anifail mwyaf clyfar ar y fferm ac maen nhw yn haws i'w trin na defaid a geifr ym marn llawer o ffermwyr. Er hyn maen na dal yn llawer o waith! Cofiwch does dim anifail ar y fferm yn hawdd i edrych ar eu hôl.
Mae'r mochyn gwyn mawr yn hoffi rolio yn y mwd ac yn debyg iawn i'r mochyn du.
Mae'r mochyn Hampshire yn dod o Loegr. Mae ganddo stribed mawr gwyn o amgylch ei fol.
Wyddoch chi nad yw moch yn chwysu? Mae'r mochyn du yn boblogaidd ac yn hoff iawn o rowlio yn y baw.
Dyma fochyn sy'n dod o Gymru yn wreiddiol.
Mae'r mochyn Caerloyw yn dod o Gaerloyw yn Ne Lloegr. Mae'r math yma o fochyn yn gwerthu'n dda gyfer gig.
Mae'r mochyn Fietenam yn hoffi rhowlio yn y mwd fel y rhan fwyaf o'r moch eraill ond mae golwg milain arno!