Amdanon ni
Mae'r Tabernacl yn eglwys hanesyddol sydd â'i gwreiddiau’n ymestyn yn ôl mor bell â’r ddeunawfed ganrif, ac sydd â’i golwg heddiw ar fod yn eglwys:
gynnes a chroesawgar
agored a diragfarn
eciwmenaidd ei nod
drwyadl Gymraeg ei chyfrwng iaith
Mae’n eglwys sy’n ceisio perthnasu’r Ffydd Gristnogol ar gyfer her, anghenion a sefyllfaoedd yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n ymarfer:
aelodaeth agored – i bawb, o ba enwad bynnag, sy’n dymuno ymaelodi ynddi.
cymun agored – i bawb sydd yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist
meddwl agored, gonest
Oedfaon y Sul
10.0am Oedfa Foreol. Oedfa Gymun ar Sul cyntaf y mis. O ddechrau Ionawr 2022 bydd y gwasanaeth yn symud i 10.30 y bore
Gweinidog: Nid oes Gweinidog ar hyn o bryd
tabernaclcaerfyrddin@gmail.com