UNED 2 | UNIT 2

CYMRU FEL CYRCHFAN I DWRISTIAID

WALES AS A TOURIST DESTINATION

TROSOLWG

Mae Cymru'n gyrchfan twristiaeth amrywiol ac felly mae ganddi lawer i'w gynnig. O fynyddoedd ac arfordiroedd i benwythnosau mewn llety gwely a brecwast bach i ddigwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth enfawr, mae amrywiaeth eang o brofiadau ar gael i ymwelwyr. Mae pwysigrwydd y diwydiant i Gymru yn ddiamheuol: y miliynau o bunnoedd mae ymwelwyr yn eu gwario, y miloedd o swyddi mae'n eu cynnal, a'r busnesau sy'n cael eu creu i'w gynnal. Mae gan Gymru uchelgeisiau i dyfu eto. Mae tystiolaeth o hyn yn yr ymchwiliad a gynhaliwyd yn 2022 i archwilio'r camau gall Llywodraeth y DU eu cymryd i helpu i hyrwyddo Cymru i'r byd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi amlinellu eu blaenoriaethau i'r diwydiant, gan nodi 'ein huchelgais yw tyfu twristiaeth er budd Cymru. Mae hyn yn golygu cyflawni twf economaidd sy’n sicrhau budd i bobl a lleoedd gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol a buddiannau iechyd.' Mae'r datblygiadau cyffrous hyn yn cynnig cyfle i ddysgwyr weld twristiaeth yng Nghymru yn symud i'w gam nesaf.

OVERVIEW

Wales is a diverse tourism destination and consequently has a lot to offer. From mountains and coasts, to small bed and breakfast weekends, to huge sporting and musical events, there is a huge variety of experiences for visitors to be part of. The importance of the industry to Wales is undeniable: the millions of pounds that visitors spend, the thousands of jobs sustained, and the businesses created to support it. Wales has ambitions to grow further. This is evidenced in the 2022 inquiry held to explore the steps that the UK Government can take to help promote Wales to the world. The Welsh Government has also set out its priorities for the industry, stating that ‘our ambition is to grow tourism for the good of Wales. This means economic growth that delivers benefits for people and places, including environmental sustainability, social and cultural enrichment and health benefits.’ These exciting developments offer learners a chance to see tourism in Wales moving into its next phase.

cynnwys

2.1 Y diwydiant twristiaeth yng Nghymru

2.2 Hygyrchedd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid

2.3 Materion sy'n effeithio ar dwristiaeth yng Nghymru

2.4 Tueddiadau a blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 

content

2.1 The tourism industry in Wales

2.2 The accessibility of Wales as a tourist destination

2.3 Issues that impact tourism in Wales

2.4 Trends and priorities for the visitor economy 

asesu

Asesiad dan reolaeth allanol: 16 awr

Briff yn cael ei ryddhau gan CBAC 7 wythnos cyn y dyddiad cau

100 marc

Graddio A - E

assessment

External controlled assessment: 16 hours

Brief will be released by WJEC 7 weeks prior to submission date

100 marks

Graded A - E