UNED 1 | UNIT 1

Y DIWYDIANT TWRISTIAETH BYD-EANG

THE GLOBAL TOURISM INDUSTRY

TROSOLWG

Mae twristiaeth yn parhau i fod yn ddiwydiant byd-eang hollbwysig, sy'n datblygu ac yn cynnig llu o gyfleoedd i'r bobl sy'n gweithio ynddo. I'r gwledydd sy'n cynnig cynhyrchion a gwasanaethau twristiaeth, mae potensial o lefelau cyflogaeth uchel a chanlyniadau economaidd a chymdeithasol cadarnhaol, megis gwell isadeiledd a safonau byw yn ogystal â chynhyrchu incwm i fusnesau a chymunedau lleol. Mae llawer o gyfleoedd cyflogaeth hefyd ar gael i bobl sy'n dymuno datblygu eu gyrfaoedd, o'r rolau swyddi mwy 'traddodiadol' neu gyfarwydd megis criw caban, asiantaethau teithio a chynrychiolwyr gwyliau i farchnatwyr digidol, trefnwyr gwyliau a hyfforddwyr chwaraeon a gweithgareddau.

OVERVIEW

Tourism continues to be a vitally important and evolving global industry, offering a multitude of opportunities for those working within it. For the countries who offer tourism products and services, there is potential for high levels of employment and positive economic and social outcomes, such as improved infrastructure and standards of living along with income generation for local businesses and communities. There are also numerous employment opportunities for those wishing to develop their careers, from the more ‘traditional’ or well-known job roles such as cabin crew, travel agents and holiday representatives to digital marketers, festival organisers and sports and activities instructors.

cynnwys

1.1 Sectorau'r diwydiant twristiaeth

1.2 Twristiaid a'r cymhelliant i deithio

1.3 Strwythurau a'r rhyngberthnasoedd ym maes twristiaeth

1.4 Gwerth twristiaeth i'r economi 

content

1.1 Sectors of the tourism industry

1.2 Tourists and motivations for travel

1.3 Structures and interrelationships in tourism

1.4 The value of tourism to the economy 

asesu

Arholiad allanol: 1awr 40mun

100 marc

Graddio A - E

assessment

External examination: 1hr 40min

100 marks

Graded A - E