Mae'r adnoddau yma yn addas ar gyfer eu defnyddio gyda disgyblion sydd angen adolygu eu sgiliau sylfaenol. Dylid eu defnyddio gydag arweiniad aelod o staff. Maent yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau ymarferol, llafar, ysgrifennu a darllen sydd yn cael eu casglu mewn 'Dosbarth Rhithiol'. Bydd angen i chi lawr lwytho'r dogfennau er mwyn i chi fedru clywed y sain ac yna dilyn y dolenni sydd o fewn y 'dosbarth rhithiol' er mwyn cael mynediad at yr adnoddau dysgu. Mae yna gyfoeth o weithgareddau i'w cael ym mhob uned, cymerwch eich amser i bori drwyddynt.