Mae Theatr Felinfach wedi datblygu arlwy eang ac arloesol o weithgareddau a chyflwyniadau sydd yn cyfrannu at yr ymgyrch o hyrwyddo lles yn ystod y cyfnod Covid-19. Mae'n bosib cael mynediad at yr hyn sydd ar gael drwy sianel You Tube y Theatr. Gweler isod am gyfleoedd i ddatblygu lles corfforol.
Theatr Felinfach has developed a wide and innovative offer of activities and presentations that contribute to the promotion of wellbeing during the Covid-19 period. It is possible to access what is available through the Theatre's You Tube channel. See below opportunities to develop physical wellbeing.
Sesiwn flasu CLOCSIO sydd gyda Lowri i chi heddiw! Cyffrous iawn! Beth am roi cynnig arni? Mae'n bwysig eich bod chi'n sicrhau bod eich gofod yn bwrpasol ac yn ddiogel ar gyfer y gweithgaredd yma. Awgrymir i blant o dan 7 oed cael cymorth oedolyn
Taster session for clog dancing with Lowri. Exciting! How about giving it a go?
It is important that your space is appropriate and safe for the activity. We recommend that any participants under 7 years old should be accompanied by an adult
Yoga
Dyma weithgaredd Yoga yn arbennig ar gyfer Dychmygus gan Catrin Ahmun, Hyfforddwr Lles. Mae'r fideo yoga yma 'Mae mam ar goll' yn addas i blant 3 oed hyd at 7/8 oed! Diolch Catrin! Mwynhewch!
Here is a Yoga activity especially made for Dychmygus/Imagine by Catrin Ahmun, Wellness Coach. This yoga video is suitable for children aged 3 years up to 7/8 years old! Thank you Catrin! Enjoy!