Yn ystod y cyfnod clo, bydd nifer o blant a phobl ifanc yn teimlo’r golled o beidio cael gweld a chymysgu gyda’u ffrindiau. Gall hyn achosi teimladau o or-bryder a galar ymysg nifer o’n disgyblion oherwydd eu bod wedi colli’r rhyngweithio hynny sy’n cefnogi eu hunanhyder a hunanddelwedd. Byddant yn galaru am y patrwm bywyd oedd ganddynt yn flaenorol a byddant yn ansicr o ddisgwyliadau’r dyfodol. Wrth i ni gymryd y camau cyntaf i ymdopi gyda’r ‘normal newydd’, mae’n holl bwysig ein bod ni’n darparu cwricwlwm adferol syn rhoi’r ffocws ar les y disgyblion trwy ail-adeiladu perthnasoedd allweddol. Mae gweithgareddau’r llyfryn hwn wedi cael eu trefnu mewn i sesiynau 30-40 munud ysgafn, bydd yn eich helpu i ail-adeiladu sgiliau personol a pherthnasoedd ymysg disgyblion eich dosbarth, ynghyd â dysgu cael hwyl unwaith eto. Wedi’r cwbl “Yn aml, chwerthin yw’r moddion orau mewn bywyd.” Mae yna restr o syniadau dosbarth cyffredinol i'w gweld hefyd. Mae angen rhoi ystyriaeth lawn i reoliadau diogelwch COVID-19 wrth ymgymryd â'r gweithgareddau.
Angharad John, Mehefin/ June 2020
During the COVID lockdown, the loss of friendship and social interaction could trigger feelings of loss/grief and anxiety in many of our children and young people. They will grieve for their group of peers and friendships that affirm to them the young person they want to be. The rules of the peer group have vanished without warning. They will mourn for how their life was in comparison to how it is now. As we begin to embrace the 'new normal' we need to put in a systematic recovery curriculum focused on re-building self-confidence and friendships amongst the pupils in our care. The activities, in this booklet have been organized in to short 30/40 minute weekly sessions that will support you to re-build pupil self-confidence and relationships in your class as well as have some fun. Laughter is often the best medicine in life! There are also some general class ideas at the beginning of the booklet. Covid- 19 safety measures need to be considered and adhered to at all times whilst completing activities.
Llyfryn Perthnasoedd Blwyddyn 7.pdf
Llyfryn Perthnasoedd Blwyddyn 8.pdf
Llyfryn Perthnasoedd Blwyddyn 9.pdf
Llyfryn Perthnasoedd - Relationship Building Booklet Blwyddyn CA 4 KS.pdf