Mae'r adnoddau yma yn addas ar gyfer eu defnyddio gyda disgyblion sydd yn caffael y Gymraeg am y tro cyntaf. Maent wedi cael eu creu ar gyfer Canolfannau Iaith yr Awdurdod, ond hefyd yn addas ar gyfer eu defnyddio gyda' r disgyblion hynny sydd angen adolygu' r camau cyntaf. Dylid eu defnyddio gydag arweiniad aelod o staff. Maent yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau ymarferol sydd yn cael eu casglu mewn 'Dosbarth Rhithiol', bydd angen i chi ddilyn y dolenni o fewn y 'dosbarth' er mwyn cael mynediad at yr adnoddau. Bydd rhain hefyd yn sail ar gyfer y cynlluniau 'dysgu byw' ar gyfer y disgyblion sydd wedi cofrestru ar gyfer Canolfannau Iaith Tymor yr Hydref.