Ceir yma gyfres o weithgareddau yn defnyddio defnyddiau naturiol yn cyfuno creadigrwydd a meddylgarwch.
Defnyddio adnoddau naturiol i hyrwyddo lles a meddylgarwch….
Y Traeth
Os nad ydy'n bosib i fynd i'r traeth, dewch a'r traeth i'r dosbarth drwy gasglu adnoddau a chlipiau fideo.
Wythnos 1 - Celf Cerrig
Ewch am dro hamddenol ar hyd y traeth/ ardal allanol a chasglwch gerrig diddorol y gallwch eu paentio. Sylwch ar faint, siâp a gwead y cerrig rydych wedi eu casglu. Sut ydyn nhw'n teimlo wrth gyffwrdd â nhw? Sut maen nhw'n arogli? Disgrifiwch.
Rydych yn mynd i droi'r cerrig yn drysorau arbennig gan ddefnyddio lliw a phatrymau. Dewiswch liwiau sy'n gwneud i chi deimlo'n gadarnhaol ac yn hapus ac a fydd yn eich helpu i gofio'r amser braf a gawsoch chi ar y traeth.
Wythnos 2 - Broc Môr
Ewch am dro ar hyd y traeth/ ardal allanol. Sefwch yn llonydd yn yr awel a chaewch eich llygaid ac anadlwch yn ddwfn. Gadewch i'r sŵn eich tywys chi i le hapus. Casglwch ddarnau diddorol o froc môr a sylwch ar siâp a gwead y gwahanol ddarnau. Ydyn nhw'n eich atgoffa chi o wrthrychau eraill? Pa siapau allwch chi eu gweld?
Casglwch eich hoff ddarnau o froc môr rydych wedi mwynhau edrych arnynt. Rydych yn mynd i ddylunio crog wal cadarnhaol ar gyfer eich ystafell wely a phan fyddwch yn edrych arno byddwch yn teimlo'n falch ac yn hapus am yr hyn rydych wedi ei greu.
Bydd angen y canlynol arnoch: glud pren a darn trwchus o gerdyn sgwâr i ludo'r broc môr arno. Paent os ydych am baentio un neu ddau frigyn.
Wythnos 3- Cregyn
Bydd angen cynfas arnoch, sgwariau cardfwrdd, glud PVA ac amrywiaeth o gregyn ac ati.
* Gorweddwch ar eich cefn ar draeth tywodlyd a chymerwch funud o feddylgarwch / gwrandewch ar sŵn y tonnau a dychmygwch eich bod yn bluen yn arnofio ar y môr.
Crëwch gasgliad o gregyn prydferth o bob lliw a llun. Sut ydyn nhw'n teimlo yn eich llaw? Sut maen nhw'n arogli ac yn swnio? Mae cregyn yn hudolus ac yn brydferth. Crëwch ddyluniadau bach gyda'ch casgliad o gregyn a gwnewch rodd i rywun arbennig neu i'w rhoi yn eich ystafell wely. Gwnewch rodd i rywun sy'n gwneud i chi deimlo'n dda y tu mewn i chi.
Wythnos 4 - Tywod
Pa liwiau sy'n gwneud i chi deimlo'n llonydd? Gwnewch lun tywod, môr neu dir gan ddefnyddio tywod a glud lliw.
Dewiswch eich hoff liwiau a dyluniwch fotel dywod dawelu ar gyfer eich lle diogel.
Mae rhoi pethau prydferth o'n cwmpas sy'n gwneud i ni deimlo'n hapus yn bwysig er mwyn teimlo'n dda ac mae'n lleihau gor-bryder.
Wythnos 5- Plu
Ewch am dro a gwnewch gasgliad o blu o bob lliw a llun. Eisteddwch mewn cylch a gofynnwch i'r disgyblion gyffwrdd â'u dwylo a breichiau gyda'r plu, cau eu llygaid a yn mwynhau’r teimlad ymlaciol.
Rhowch y plu mewn paent a gwnewch farciau a phatrymau gan ddefnyddio lliwiau glan môr tawel i leihau gorbryder.
Rhowch y plu mewn patrwm llinell syth a phaentiwch y plu gan ddefnyddio amrywiaeth o liwiau. Gludwch nhw ar glawr blwch esgidiau i ddathlu'r darn celf gorffenedig.
Wythnos 6 - Pyllau Dŵr
Dewch o hyd i byllau diddorol a defnyddiwch chwyddwydrau/bwcedi i edrych yn fanwl ar wymon, cregyn, creigiau, tywod a chreaduriaid bach. Gofynnwch i'r plant edrych ar y lliwiau, gweadau, synau a symudiad y pwll. Sut mae'r pwll yn gwneud iddyn nhw deimlo?
Ail-grëwch deimlad ymlaciol y pwll trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau naturiol a gasglwyd o'r traeth ochr yn ochr â darnau o ddeunyddiau a gwlân y tu mewn i flwch plastig.
Y Goedwig
Rhai syniadau profedig ar gyfer ymlacio a lleihau straen sydd wedi gweithio'n dda yn yr amgylchedd coedwig. Os nad ydy'n bosib i fynd i'r goedwig, dewch a'r goedwig i'r dosbarth drwy gasglu adnoddau a chlipiau fideo, neu wrth gwrs defnyddiwch eich ardaloedd allanol.
Wythnos 1 - Canfod Trysorau
Crëwch ffon daith yn ystod taith meddwlgarwch trwy'r goedwig. Defnyddiwch amrywiaeth o siartiau paent a cheisiwch gyfateb y trysorau a gasglwyd o'r goedwig â'r lliwiau agosaf e.e. mwsogl, dail, hadau, blodau.
Crëwch olwyn liw hwyliau gan ddefnyddio deunyddiau naturiol o'r goedwig. Gwerthfawrogwch harddwch y trysorau.
Wythnos 2 - Gwinwydd Crog
Casglwch ddail o siâp/lliw gwahanol a chrëwch batrwm ar frigyn tenau i'w hongian y tu allan neu wrth ymyl ffenestr.
Wythnos 3 - Ffon Daith
Casglwch ddail o siâp/lliw gwahanol a chrëwch batrwm ar frigyn tenau i'w hongian y tu allan neu wrth ymyl ffenestr.
Wythnos 4 - Crog - Wal Natur
Crëwch grog wal natur. Casglwch 4 brigyn i bob disgybl. Gallwch ddefnyddio'r broses o gysylltu pob brigyn fel gweithgaredd sgiliau meddwl a datrys problemau. Yna defnyddiwch linyn i greu rhwyd i ddal y defnyddiau fyddwch yn dewis ychwanegu.
Wythnos 5 - Gludwaith Coedwig
Ail-grëwch amgylchedd ymlaciol y goedwig gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau