Helfa Drysor Pontypridd

Aeth yr adran Ddyniaethau a Chymraeg â Blwyddyn 7 ar daith i Bontypridd yn dilyn y Llwybr Treftadaeth er mwyn dysgu am eu hardal leol. Cafwyd hwyl yn cwblhau helfa drysor a chwarae ym Mharc Ynys Angharad.