Roedd disgyblion Blwyddyn 10 wedi dysgu llwyth gan Aneirin Karadog wrth iddo drafod ei gerdd Gweld y Gorwel sydd ar y cwrs TGAU. Rhoddodd Aneirin bersbectif wahanol ar y gerdd ac roedd y disgyblion yn cytuno y fydd y sgwrs yn fuddiol iawn ar gyfer yr arholiad Barddoniaeth. Cafodd Blwyddyn 7 gyfle i rapio ac ysgrifennu rap ac roedden nhw wrth eu boddau! Braf oedd gweld disgyblion Blwyddyn 7 mor frwdfrydig!