Cafodd yr Eisteddfod ysgol ei chynnal ddiwedd hanner tymor y Chwefror lle bu disgyblion o flynyddoedd Derbyn i 8 a'r Ysgol Hyn yn cystadlu'n frwd ar y llwyfan. Bu blynyddoedd 9 i 11 hefyd yn helpu tu ôl y llenni yn cystadlu yn y gwaith cartref ac yn creu banneri.
Clydach oedd y llys buddugol ar ddiwedd yr holl gystadlu a chafwyd diwrnod arbennig yn dathlu ein Cymreictod.