Yn ystod blwyddyn 7 bydd eich plentyn wedi ei roi mewn un o chwech dosbarth cofrestru gallu cymysg. Byddant yn derbyn pob gwers fesul dosbarth cofrestru ac yn cyfuno er mwyn derbyn gwersi addysg gorfforol. Byddant wedyn yn cael eu bandio yn ôl gallu ym mlwyddyn 8.
During year 7 your child will be assigned to one of six mixed ability registration classes. They will receive all lessons as a registration class and join classes to receive physical education lessons. They will then be banded according to ability during year 8.
Ym Mro Edern rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn defnyddio technoleg a thenchnegau digidol er mwyn cyfoethogi addysg ein disgyblion. Rydym wedi mabwysiadu cwricwlwm sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac sy’n rhoi amrediad eang o sgiliau i’n disgyblion. Yn ystod y tymor cyntaf, bydd pob disgybl yn derbyn Chromebook unigol mewn noson rieni er mwyn dechrau ar y fenter gyffrous hon.
Eiddo Bro Edern yw’r Chromebook, ac maent ar fenthyg i ddisgyblion er mwyn eu cynorthwyo gyda’u gwaith ysgol yn unig. Bydd disgyblion yn derbyn gwers sgiliau er mwyn iddynt ymgyfarwyddo gydag egwyddorion pwysicaf defnyddio technoleg yn yr ysgol. Gydag Chromebook, bydd disgyblion yn medru gwneud gwaith rhyngwethiiol sy’n plethu gwaith ysgrifenedig a llafar gyda delweddau a ffilm, er mwyn codi safonau o ran rhifedd a llythrennedd.
Mae holl staff bugeiliol yr ysgol wedi derbyn hyfforddiant dulliau adferol cynhwysfawr. Golyga hyn fod yr ysgol yn ymateb i unrhyw anghydfod drwy ddefnyddio dulliau adferol. Mae’r technegau hyn yn rhoi’r pwyslais ar adnabod anghenion y disgyblion er mwyn goresgyn unrhyw rwystr. Mae’r defnydd o gyfarfodydd adferol wedi sicrhau fod disgyblion yn medru cwrdd a chytuno ar gynllun er mwyn symud ymlaen.
Every pastoral member of staff has been trained in restorative approaches. This means that the school is able to react to any disagreement using a restorative approach. These techniques put an emphasis on identifying the needs of the pupil in order to overcome any barrier. The use of restorative meetings has ensured that pupils are able to meet and agree on a plan to move forward.