Mae nifer fawr o weithgareddau addysg gorfforol yn digwydd yn ystod amseroedd cinio ac ar ôl ysgol. Mae nifer sylweddol o dimau yn yr ysgol, gan gynnwys timau pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd, hoci, criced, badminton, tenis bwrdd. Yn ychwanegol mae gennym ddisgyblion yn cynrychioli’r ysgol ym maes athletau a gymnasteg. Cynhelir ymarferion cyson yn ystod yr awr ginio ac ar ôl ysgol.
Ein nod cyntaf yw darparu cyfle i bob disgybl, beth bynnag fo’u diddordebau neu lefelau eu llythrennedd corfforol, i gyfranogi o ran gweithgarwch corfforol o fewn a thu allan i’r gwersi.
Yn ail, fel ysgol newydd, rydym hefyd wedi bod wrthi’n gosod sylfeini cadarn ar gyfer ffurfio timoedd chwaraeon cystadleuol, brwdfrydig a llwyddiannus sy’n medru cystadlu gyda’r goreuon, ymhell ac agos. Mae gennym eisoes dimau chwaraeon cystadleuol ar gyfer rhychwant eang o gampau, ac mae ein disgyblion eisoes wedi serennu o fewn y sir, gydag eraill wedi cynrychioli Cymru.
Yn olaf, rydym ni’n annog agwedd bositif tuag at fyw bywyd iach a thuag at gyfranogiad gydol-oes mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Oherwydd hyn, darperir llawer o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu’u sgiliau a’u lefelau ffitrwydd. Ceir cyfleoedd cyn ac ar ôl ysgol, er mwyn i’n disgyblion weithio’n annibynnol a chydag eraill ar lefelau eu ffitrwydd yn ogystal â’u gallu i gystadlu gydag eraill mewn campau tîm.
Mae’r adran yn gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol megis Chwaraeon Caerdydd, Dance Fit a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i roi’r cyfleoedd gorau i’n disgyblion elwa o arbenigedd allanol mewn nifer o gampau, gan godi cymhelliant a gwella lefelau ffitrwydd ein disgyblion.
A large number of physical education activities take place during lunchtime and after school. The school has a wide range of teams including football, rugby, netball, hockey, cricket, badminton and table tennis. In addition we have pupils who represent the school in individual team activities such as athletics and gymnastics. Regular practices take place during the lunchtime and after school.
Our first aim is to provide an opportunity for every pupil, whatever their interests or levels of physical literacy, to take part in physical activity both inside and outside lessons.
Secondly, as a new school, we have been busy laying solid foundations by forming competitive, enthusiastic and successful sporting teams who can compete with the very best, both far and wide. We already have competitive teams in a wide range of sporting disciplines; our pupils have already shone at county level, while others have represented Wales. Our annual Prizegiving Evening every July enables the Bro Edern family to come together to celebrate our successes and recognise the sporting achievements of our most talented pupils.
Lastly, we encourage a positive attitude towards living a healthy lifestyle and life- long participation in physical activity and sport. For this reason, pupils are given lots of opportunities to develop their skills and fitness levels. There are opportunities before and after school for our pupils to work independently and with others on both their fitness levels and their ability to compete with others in team sports.
The department works effectively in partnership with external agencies such as Sport Cardiff, Dance Fit and Cardiff Metropolitan University in order to provide our pupils with the best opportunities to benefit from external expertise in a number of disciplines, improving motivation and our pupils’ fitness levels.
Dilynwch yr Adran ar Twitter @AG_BroEdern
Follow the department on Twitter @AG_BroEdern