Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn y gweithgareddau allgyrsiol a gynigir yn yr ysgol a’n llwyddiannau hyd yn hyn. Cydnabyddwn bwysigrwydd gweithgareddau o’r fath fel rhan o addysg eang sy’n cyfrannu gymaint at ddatblygiad unigolion, ac anogwn bob disgybl i fod yn rhan o’r gweithgareddau hyn.
Yn ystod amseroedd cinio yn ogystal ceir clybiau amrywiol o fewn y pynciau megis y Clwb Dyniaethau, Clwb y Gynghrair Lego, Clwb Ffrangeg a’r Clwb Celf. Trefnir digwyddiadau hefyd sy’n cyfoethogi’r cwricwlwm megis ymweliadau gan lenorion Cymru, sgwrs gyda John Boyne (awdur The Boy in the Striped Pyjamas), ac ymweliadau â mannau addoli megis y Gwrdwara yng Nghaerdydd a’r Mandir yn Llundain.
Trefnir nifer o ymweliadau allgyrsiol gan amrywiol adrannau, gan gynnwys ymweliadau cyfnewid ag ysgol o Grünstadt yn yr Almaen ac ysgol o Nantes yn Llydaw, taith sgïo ac ymweliadau â gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Glan-llyn.
The school is proud of the extracurricular activities that are on offer here. We recognise the importance of such activities as a part of a broad education that supports the development of all individuals, and we encourage all pupils to take part in as many of these activities as possible.
During lunchtimes numerous clubs are held by departments such as the Humanities Club, the First Lego League, French Club and Art Club. Curriculum enrichment activities are also held, such as visits from some of Wales’ literary figures, an interview with John Boyne (author of The Boy in the Striped Pyjamas), and visits to religious sites, such as the Gurdwara in Cardiff and the Mandir in London.
A number of extracurricular visits are organised by departments, including an exchange visit with a school in Grünstadt in Germany and a school from Nantes in France, a skiing trip and visits to the Urdd centres at Llangrannog and Glan-llyn.