Community
Mae ein hysgol yn chwarae rhan bwysig iawn yn y gymuned leol a’r gymuned ehangach. Mae hyn yn cynnwys cymuned yr ysgol, y gymuned ble lleolir yr ysgol ynghyd â gweddill Cymru. Yn ogystal, y mae’r ysgol wedi gydweithio gydag ysgolion eraill ar brosiectau penodol, er enghraifft cyd-weithio gyda Chyngor y Celfyddydau i ddatblygu’r ardd synhwyraidd a Phrifysgol Aberystwyth ar brosiect ymchwil i sgiliau mathemateg.
Rydym yn sicrhau fod cwricwlwm ac ethos yn yr ysgol yn hybu'r syniad o hunaniaeth a chefnogi amrywiaeth, gan ddangos i’r disgyblion y gall gwahanol gymunedau weithio gyda’i gilydd er mwyn datblygu cymdeithas lwyddiannus.
Our school plays a very important part in the local and wider community. This includes the individual school community, the community within which the school is located, as well as other Welsh and global communities. In addition, the school has collaborated with the Arts Council to develop the sensory garden and with Aberystwyth University on a research project to develop maths skills.
. We ensure that the school’s curriculum and ethos promotes a common sense of identity and supports diversity, showing pupils that different communities can work together to develop a coherent and successful society
Enghreifftiau o gyswllt gyda'r gymuned / Examples of collaborating with the community
· Gwasanaethau brys - sesiynau gan Swyddogion Cymunedol yr Heddlu sy’n cynnwys cyffuriau ac alcohol, diogelwch ar y fferm, diogelwch glan môr a gweithdai gan y Frigâd Dân. / Emergency services – sessions with School Community Police Officers including alcohol and drugs, ambulance service, farm safety, safety at the seaside and Fire Brigade workshops.
· Gwasanaeth gan y Parch Alun yn Eglwys St Ilar. / Assemblies with Parch Alun in St Ilar Church
· Cysylltiadau gyda rhieni. / Parental links.
· Gweithio gyda busnesau lleol e.e. Siop y Pentref. / Working with local businesses such as Siop y Pentref
· Cefnogi elusennau lleol a chenedlaethol e.e. Plant Mewn Angen; Banc Bwyd Aberystwyth. / Supporting local and national charities such as Children in Need, Aberystwyth Food bank
· Asiantaethau allanol yn gweithio gyda’r disgyblion ar wahanol agweddau o’r cwricwlwm – Nyrs Ysgol, Ceredigion Actif / Outside agencies coming in to work with children on various aspects of the curriculum – School Nurse, Ceredigion Actif
· Cysylltiadau gyda sefydliadau addysgiadol megis Ysgol Gyfun Penweddig, Ysgol Gyfun Penglais, Cylch Meithrin Llanilar, Prifysgol Aberystwyth. / Links with educational establishments e.g. Ysgol Gyfun Penweddig, Ysgol Gyfun Penglais, Cylch Meithrin, Aberystwyth University.
· Nifer o aelodau cymuned yr ysgol wrth greu gwefan Llanilar. / Links with members of the local community when creating a new website about Llanilar.
· Gwersi cerdd. / Peripatetic music lessons
· Aelodau o sefydliad y Merched yn gwrando ar ddysgwyr./ Members of Llanilar WI listening to children read.
· Cymuned Llanilar yng nghystadleuaeth tyfu tatws. /Llanilar community in the potato growing competition.
Cymdeithas Rhieni, ffrindiau ac Athrawon / PTFA
Mae Cymdeithas Rhieni, Ffrindiau ac Athrawon gweithgar yn yr ysgol sy'n helpu i drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau. Mae'r Gymdeithas yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi'r ysgol gyda threfnu a rhedeg digwyddiadau cymdeithasol a chodi arian. Mae'r pwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd i drefnu digwyddiadau a chroesawir pob cynnig o gymorth gan rieni eraill. Caiff Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ei gynnal yn ystod tymor yr Hydref er mwyn ethol aelodau newydd i’r pwyllgor.
There is an active Parent, Friends and Teacher Association at the school which helps organise a variety of events. It plays an important role in supporting the school with organising and running social events and fundraising. The committee meets regularly to organise events and all offers of help from other parents are welcome. An Annual General Meeting will be held during the Autumn term in order to elect new members to the committee.
Ar ddiwedd Blwyddyn 6 bydd disgyblion yn symud ymlaen i'r ysgol uwchradd, a chaiff rhieni eu hysbysu gan yr AALl ynghylch trefniadau trosglwyddo.
Bydd disgyblion sy'n gadael Ysgol Llanilar fel arfer yn mynychu Ysgol Gyfun Penweddig Penglais neu Henry Richard.
At the end of Year 6 pupils will move on to secondary school, and parents will be informed by the LEA about transfer arrangements. Pupils leaving Ysgol Llanilar will usually go to Ysgol Gyfun Penweddig Penglais neu Henry Richard.
Rydym yn ffodus iawn bod aelodau o Sefydliad y Merched Llanilar yn ymweld a'r ysgol yn wythnosol i ddarllen a sgwrsio gyda'r dysgwyr. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eu gweld bob wythnos!
We're very fortunate that members of Llanilar WI visit the school weekly to read with the children.