Dysgwyr Dosbarth Gwenllian a Llywelyn yn mwynhau dysgu am sut mae ein cyrff yn gweithio gyda staff Prifysgol Aberystwyth.
Gwenllian and Llywelyn Class learners enjoying learning about how our bodies work with Aberystwyth University staff.
Mwynhaodd Disgyblion Blwyddyn 5 a 6 ymweliad gan amgueddfa y RAF i wneud gweithgareddau STEM. Yr her cyntaf oedd i greu roced gan ddefnyddio adnoddau i'w lawnsio ar lawnsiwr arbennig. Yr her oedd i weld pa roced aeth bellach.
Year 5 and 6 Pupils enjoyed a visit from the RAF museum to do STEM activities. The first challenge was to create a rocket using resources to launch it on a special launcher. The challenge was to see which rocket went next.
Yr ail her oedd i greu gorchudd i Spherobot a fyddai'n gallu casglu peli. Roedd dau Spherobot yn rasio yn erbyn eu gilydd i weld faint o beli roedden nhw yn gallu llwyddo i gasglu. Cafwyd llawer o hwyl gyda'r sialens hon, a rydym yn edrych ymlaen i gael set o Spheros yn yr ysgol er mwyn arbrofi mwy yn ystod tymor yr Haf.
The second challenge was to create a cover for Spherobot that would be able to collect balls. Two Spherobots were racing against each other to see how many balls they could manage to collect. A lot of fun was had with this challenge, and we are looking forward to having a set of Spheros in the school in order to experiment more during the Summer term.
Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i ymweld â Ffair Wyddoniaeth Prifysgol Aberystwyth yn flynyddol ble mae ein dysgwyr yn dysgu am agweddau gwahanol o Wyddoniaeth. Eleni, roedd nifer o'r disgyblion wedi mwynhau edrych ar benglogau gwahanol anifeiliaid gan ddyfalu pa anifeiliaid oedden nhw.
We are grateful for the opportunity to visit the Aberystwyth University Science Fair annually where our learners learn about different aspects of Science. This year, many of the pupils enjoyed looking at the skulls of different animals and guessing which animals they were.
Roedd ein Llysgenhadon Gwych yn ffodus iawn o gael mynd ar ymweliad i Denmark Farms yn ystod tymor yr Hydref. Fe ddaeth y ddau yn ôl i'r ysgol yn llawn gwybodaeth a bwrlwm am sut mae bwydydd gwahanol yn cael eu cynhyrchu.
Our Great Ambassadors were very fortunate to be able to visit Denmark Farms during the Autumn term. They both came back to school full of information and buzz about how different foods are produced.
Bu Dosbarth Gelert yn ffodus o gael sesiwn rhithiol gyda Amgueddfa Cymru fel rhan o'u gwaith am y deinosoriaid. Roedd e'n grêt iddyn nhw weld ffeithiau gwahanol am ddeinosoriaid i gyfoethogi eu dysgu.