Gwyddoniaeth ar lawr y dosbarth
Science in our classrooms
Science in our classrooms
Rydym ni, yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar, yn falch o'r cwricwlwm cynhwysfawr sydd wedi ei llunio ar y cyd rhwng dysgwyr, staff, rhieni, llywodraethwyr a chymuned yr ysgol.
Rydym yn cynnig profiadau dysgu byw a real sydd yn galluogi ein dysgwyr i fod yn greadigol, yn ddychmygus ac yn arloesol mewn awyrgylch sydd yn gynhwysol, cartrefol a chyfforddus.
Wrth wrando ar lais ein rhanddeiliaid, amlygwyd pa mor bwysig oedd dysgu am ein cymuned, ein treftadaeth, ein hanes a’n diwylliant. Mae ein themau felly’n cysylltu’n gryf gydag egwyddorion ym myd natur.
Er hyn, rydym bob amser yn ymdrechu i wella ein darpariaeth ar lawr y dosbarth fel bod bob disgybl yn dysgu yn y ffordd orau posibl er mwyn cyrraedd ei lawn potensial.
Gwnawn hyn drwy wrando ar gymuned yr ysgol. Yn hyn o beth, un o'n blaenoriaethau ni llynedd oedd:
Sut gall ardaloedd STEM helpu disgyblion i wella sgiliau ymholi Gwyddonol?
Roeddem yn awyddus, trwy greu ardaloedd penodol STEM a trwy heriau agored, i ddatblygu sgiliau ymholi Gwyddonol bob disgybl mewn modd ymarferol, cyffrous a chydwethredol.
Dyma wefan sy'n rhoi blas o'n gweithgareddau, y ddarpariaeth a'r cynnydd yn sgiliau STEM yn ystod y flwyddyn.
At Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar, are proud of the comprehensive curriculum that has been drawn up jointly between learners, staff, parents, governors and the school community.
We offer exciting learning experiences that enable our learners to be creative, imaginative and innovative in an atmosphere that is inclusive, homely and comfortable. When listening to the voice of our stakeholders, it was highlighted how important it was to learn about our community, our heritage, our history and our culture. Our themes therefore connect strongly with principles in nature.
Despite this, we always strive to improve our provision on the classroom floor so that every pupil learns in the best possible way in order to reach their full potential. We do this by listening to the school community. One of our priorities last year was:
How can STEM areas help pupils improve Scientific inquiry skills?
We were eager, by creating specific STEM areas and through open challenges, to develop each pupil's Scientific inquiry skills in a practical, exciting and collaborative way.
This is a website that gives a taste of our activities, provision and progress in STEM skills during the year.