Dosbarth Barti Ddu wrthi wedi creu cychod allan o ddeunyddiau o gwmpas y dosbarth. Yna, roedd rhaid gweld os oeddent yn suddo neu yn arnofio.
Dosbarth Barti Ddu yn rhagfynegi, cynllunio ac arbrofi i bethau sydd yn arnofio ac yn suddo er mwyn creu cwch i arbed Belcelel. Belcelel oedd cymeriad dychmygus ar gyfer prosiect creadigol blwyddyn 1 a 2.
Her STEM cychwynnol i ddosbarth Glyndŵr oedd i greu cwch fyddai'n arnofio gyda phwysau 20 ceiniog gan ddefnyddio adnoddau penodol- roedd yn grêt i glywed dealltwriaeth flaenorol y disgyblion o arnofio a suddo, gan yna gyflwyno y term Grym brigwth iddynt.
Dyma ddisgyblion Glyndŵr yn ymchwilio i weld os oes perthynas rhwng mas eitemau ac os ydyn nhw yn suddo neu'n arnofio. Bu'r disgyblion yn rhagfynegi, pwyso ac arbrofi os ydyn nhw yn suddo neu'n arnofio cyn edrych ar y canlyniadau er mwyn dod i gasgliad.
Dyma enghraifft o fideo Adobe Express gan un o ddisgyblion Glyndŵr ar ôl darganfod sut mae gwrthrychau yn arnofio neu'n suddo.
Dyma enghraifft o Imovie yn egluro sut mae gwrthrychau yn arnofio neu'n suddo.
I baratoi ar gyfer her STEM o greu cwch a fydd yn arnofio a teithio i gasglu ceiniogau, bu dysgwyr Gwenllian a Llywelyn yn arbrofi gyda darnau o glai er mwyn gweld pa siâp fydd orau ar gyfer creu cwch fydd yn symud yn well trwy'r dŵr. (Gwrthiant dŵr/hylif)
Mae dosbarth Llywelyn wedi bod yn arbrofi gyda creu cychod gan ddefnyddio ffoil a gosod ceiniogau o fewn y cychod. Maent wedi bod yn arbrofi gyda'r berthynas rhwng y grym pwysau a brigwth ynghyd â dysgu sut mae arwynebedd ac adleoli yn cael effaith.
Plant dosbarth Gwenllian yn arbrofi gyda chlai ar ôl dysgu am y perthynas rhwng brigwth a disgyrchiant. Ar ôl rhagfynegi ac ymchwilio i ba siapiau bydd yn suddo'n gyflym, roedd rhaid iddynt greu cwch oedd yn gallu arnofio a hefyd yn gallu dal marblis. Ysgrifennwyd neu recordiwyd casgliad byr yn esbonio beth ddigwyddodd. Roedd y rhan fwyaf wedi deall bod disgyrchiant a brigwth yn gorfod bod yn gyfartal er mwyn i rywbeth arnofio.