Ar ôl derbyn gwybodaeth am wrthiant aer, aeth plant ati i gynllunio arbrawf i weld os oedd rhedeg gyda pharasiwt yn effeithio ar eu cyflymder heb barasiwt. Roedd y plant wedi bod yn penderfynu ar brawf teg a sut byddant yn mesur.
Dyma enghraifft o waith dosbarth Gwenllian. Roedd lefel yr her yn wahanol i wahanol blant. Roedd rhai yn rhoi mwy nag un cynnig arni, tra oedd eraill yn gweithio allan cyfartaledd y cynnigion. Aeth plant Gwenllian ati i greu graff yn dangos y data gan ddefnyddio rhagen J2Data ar Hwb.
h.b. - heb barasiwt
g.p. - gyda pharasiwt
Isod mae engraifft o'r run ymchwil o ddosbarth Llywelyn gyda'r plentyn yn gweithio allan y cyfartaledd. Yn o gystal dyma engraifft o fideo Seesaw plentyn yn dod i gasgliad.
Ar ôl gwylio clip yn egluro sut mae grym gwrthiant aer yn gweithio, dyma eglurhad a diagram o rym wrthiant aer ar waith. Roedd hyn i wella dealltwriaeth o rym wrthiant aer cyn heriau STEM yr awyren bapur a'r parasiwt.
Un o'n heriau STEM Robolympaidd oedd i greu parasiwt a fyddai'n cymryd amser i lanio ar y llawr. Roedd angen defnyddio eu dealltwriaeth o wrthiant aer er mwyn creu parasiwt gan roedd y mwyafrif o ddisgyblion yn deall fod parasiwt mawr yn mynd i arafu y cyflymder roedd yn cwympo a phawb yn ymwybodol fod angen defnyddio deunydd ysgafn neu fyddai grym disgyrchiant yn effeithio ar gyflymder y parasiwt yn cwympo.