Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Cyfres gyda SparkLab a M-SParc lle mae dysgwyr yn ymchwilio i broblemau byd go iawn ac yn datblygu atebion STEM creadigol.
Beth i’w ddisgwyl?
Cofrestrwch eich dosbarth ar gyfer y gyfres hon o wersi rhithiol gydag e-sgol a SparkLab a M-SParc.
Bydd y pedair gwers yn eich tywys drwy arferion gorau ymholiad gwyddonol.
Mae'r gwersi wedi'u cynllunio fel gwersi i'r dysgwr, a DPP i'r athro.
Amserlen y gwersi
Gwers 1: Dydd Iau, 15 Ionawr
Gwers 2: Dydd Iau, 22 Ionawr
Gwers 3: Dydd Iau, 29 Ionawr
Gwers 4: Dydd Iau, 05 Chwefror
Sesiynau Cyfrwng Cymraeg: 9:15am
Sesiynau Cyfrwng Saesneg: 11:00am
Dysgwyr
Mae'r sesiynau Gwyddoniaeth a Thechnoleg wedi'u cynllunio ar gyfer blynyddoedd 5 a 6, ond mae croeso i ddosbarthiadau blynyddoedd 3 a 4 ymuno a defnyddio'r deunyddiau gwahaniaethol a ddarperir.
Gwybodaeth am y Sesiynau
Cynhelir y gwersi ar YouTube, gyda sesiynau yn para dim mwy nag awr yr un.
Caiff pob sesiwn ei recordio rhag ofn na allwch ymuno'n fyw.
Mae'r gwersi yma am ddim!