Gwersi Ffrangeg
Gwersi Ffrangeg
Cofrestrwch eich dosbarth ar gyfer y gyfres hon o bedair gwers rithiol gydag e-sgol a Lleucu Haf.
Beth i'w ddisgwyl?
Dewch i gael blas o Ffrangeg i’ch ystafell ddosbarth!
Ymunwch ag e-sgol a Lleucu Haf ar gyfer cyfres o bedair gwers rithiol fywiog, wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer dysgwyr Blynyddoedd 3–6.
Bydd y sesiynau rhyngweithiol hyn yn cyflwyno iaith a diwylliant Ffrengig mewn ffordd hwyliog a hygyrch - yn berffaith ar gyfer meithrin chwilfrydedd a hyder ymysg dysgwyr.
Amserlen y Sesiynau
Bob dydd Iau yn dechrau ar 15 Ionawr, yn fyw drwy Microsoft Teams.
Gwers 1: Dydd Iau, 15 Ionawr
Gwers 2: Dydd Iau, 22 Ionawr
Gwers 3: Dydd Iau, 29 Ionawr
Gwers 4: Dydd Iau, 05 Chwefror
Cyfrwng Cymraeg: 9:30yb
Cyfrwng Saesneg: 11:00yb
Bydd recordiadau ar gael yn dilyn pob sesiwn.
Dysgwyr
Mae'r gwersi Ffraneg yma wedi'u cynllunio ar gyfer dysgwyr Blynyddoedd 3–6 (ond gallai dysgwyr iau hefyd fwynhau ac elwa!).
Mae'r sesiynau yma am ddim!