e-hangu Gorwelion
e-hangu Gorwelion
🌟Dylunio a Diogelu – Datgloi Creadigrwydd. Diogelu Eich Byd Digidol. 🌟
Modiwl ar gyfer eich dysgwyr mwyaf abl a thalentog ym mlynyddoedd 5 a 6, gyda chyfle unigryw i ddatblygu sgiliau digidol dylunio trwy Adobe Express gyda Meredudd Jones a diogelu gyda Technocamps.
e-hangu Gorwelion: Sêr Seibr - Dylunio a Diogelu
Ydy’ch dysgwyr MAT Blwyddyn 5 a 6 yn barod i archwilio creadigrwydd digidol a diogelwch ar-lein? Trwy ein partneriaeth gyffrous ag Adobe a Technocamps, mae e-sgol yn cyflwyno modiwl cyfoethogi ar-lein 4 wythnos wedi’i gynllunio i ysbrydoli dychymyg, datblygu sgiliau digidol, a hyrwyddo arferion diogel ar-lein.
Beth i’w ddisgwyl
Sesiynau 1, 3 & 4: Creadigrwydd gyda Meredudd drwy Adobe Express – bydd dysgwyr yn darganfod sut i ddylunio cynnwys digidol, gan ddod â’u syniadau’n fyw.
Sesiwn 2: Aros yn Ddiogel Ar-lein – sesiwn ryngweithiol gyda Technocamps yn canolbwyntio ar ddiogelwch digidol, preifatrwydd, ac ymddygiad cyfrifol ar-lein.
Mae’r modiwl hwn yn ddelfrydol ar gyfer:
Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n mwynhau arbrofi gyda dulliau newydd ac yn mynegi syniadau’n greadigol.
Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n awyddus i gyfuno technoleg â dychymyg a dysgu sut i aros yn ddiogel yn y byd digidol.
Amserlen y Sesiynau
Sesiwn 1: Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2026 – Creadigrwydd gyda Adobe Express
Sesiwn 2: Dydd Mawrth, 20 Ionawr 2026 – Diogelwch Ar-lein gyda Technocamps
Sesiwn 3: Dydd Mawrth, 27 Ionawr 2026 – Creadigrwydd gyda Adobe Express
Sesiwn 4: Dydd Mawrth, 03 Chwefror 2026 – Creadigrwydd gyda Adobe Express
Sesiynau Cymraeg: 1:15yp
Sesiynau Saesneg: 2:15yp
Dysgwyr
Mae'r sesiynau yma ar gyfer dysgwyr MAT Blynyddoedd 5 a 6.
Manylion y sesiynau
Bydd pob sesiwn yn cael eu cynnal ar MS Teams ac yn para tua 45 munud.
Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio ar gyfer y rhai na all ymuno’n fyw.
Bydd angen gliniadur ar ddysgwyr sy'n cymryd rhan a'r gallu i wylio ar sgrin ychwanegol.
Ni fydd camerâu na meicroffonau’r dysgwyr yn weithredol, ac ni fydd modd defnyddio’r sgwrs.
Mae'r sesiynau yma am ddim!