e-steddfod 2026
e-steddfod 2026
e-steddfod yw’r eisteddfod rhithiol gyda eitemau hunan ddewisol ble mae dysgwyr yn cystadlu yn erbyn ysgolion eraill yn fyw o’u safleoedd!
Os ydych yn awyddus i ysbrydoli eich dysgwyr a staff, creu cynnwrf ynglŷn a defnyddio’r Gymraeg, neu’n awyddus i wneud y mwyaf o’ch darnau eisteddfod Ysgol a’r Urdd, yr e-steddfod yw’r digwyddiad i chi. Mae’r e-steddfod yn ymwneud â’r profiad yn fwy na’r cystadlu.
Mae'r e-steddfod ar gyfer yr ysgol gyfan ac am ddim!
Dyddiadau e-steddfod Ysgolion Cyfrwng Cymraeg
Dydd Mawrth, 03 Mawrth
Dydd Mawrth, 10 Mawrth - LLAWN
Dyddiadau e-steddfod Ysgolion Cyfrwng Saesneg
Dydd Gwener, 27 Chwefror - LLAWN
Dydd Gwener, 06 Mawrth - LLAWN
Dydd Gwener, 13 Mawrth - LLAWN
Dydd Mawrth, 17 Mawrth - LLAWN
Dydd Gwener, 20 Mawrth - LLAWN
Dogfennau
Ffurflen Gystadlu e-steddfod
Mae'r Ffurflen Gystadlu Gwaith Ysgol a Cystadleuwyr Llwyfan i'w lenwi a'i ddanfon at siwan.richards@e-sgol.cymru erbyn 13 Chwefror 2026.
Mae angen danfon y Gwaith Ysgol ar ffurf JPG, PNG, neu MP4 ar gyfer fideos.
Rhestr Wirio
Templed Llythyr Rhieni/ Gwarcheidwaid
Cwestiynau Cyffredin
Gwybodaeth
Cofrestrwch!
Dewiswch eich diwrnod cystadlu i gyd-fynd gyda ffrwd iaith eich Ysgol - Cyfrwng Cymraeg neu Cyfrwng Saesneg.
Cyntaf i'r felin yw hi i sicrhau eich lle, gyda cofrestru yn cau ar 23 Ionawr 2026.
Gweler isod fideo yn mynd a chi drwy'r camau o archebu eich dyddiad cystadlu e-steddfod.
Os fydd eich dyddiad cystadlu yn llawn, medrwch gael eich ychwanegu ar y rhestr wrth gefn, drwy e-bostio siwan.richards@e-sgol.cymru.
e-steddfod 2025