Sbaeneg
Sbaeneg
Cofrestrwch eich dosbarth ar gyfer y gyfres hon o bedair gwers rithiol gydag e-sgol a Lleucu Haf.
🟡Beth i'w ddisgwyl?🔴
Dewch i gael blas o Sbaeneg i’ch ystafell ddosbarth!
Ymunwch ag e-sgol a Lleucu Haf ar gyfer cyfres o bedair gwers rithiol fywiog, wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer dysgwyr Blynyddoedd 3–6.
Bydd y sesiynau rhyngweithiol hyn yn cyflwyno iaith a diwylliant Sbaeneg mewn ffordd hwyliog a hygyrch - yn berffaith ar gyfer sbarduno chwilfrydedd, magu hyder, ac annog pawb i ddweud “¡Hola!” yn eiddgar.
📅Amserlen y Sesiynau
Bob dydd Iau yn dechrau ar 05 Mawrth, yn fyw drwy Microsoft Teams.
Gwers 1: Dydd Iau, 05 Mawrth
Gwers 2: Dydd Iau, 12 Mawrth
Gwers 3: Dydd Iau, 19 Mawrth
Gwers 4: Dydd Iau, 26 Mawrth
Cyfrwng Cymraeg: 9:30yb
Cyfrwng Saesneg: 11:00yb
Bydd recordiadau ar gael yn dilyn pob sesiwn.
Dysgwyr
Mae'r gwersi Sbaeneg yma wedi'u cynllunio ar gyfer dysgwyr Blynyddoedd 3–6 (ond gallai dysgwyr iau hefyd fwynhau ac elwa!).
Mae'r sesiynau yma am ddim!