Triban Morgannwg - Hel Meddyliau gan Menna Thomas
Drwy oriau'r nos annedwydd,
Fy meddwl, fel gafr fynydd,
Sy'n llamu o un graig i'r llall
Heb ball; pryd caf i lonydd?
Englyn - Pont gan Tomos Rees
Ar ei raglen Radio 5, mae Elis James yn ceisio “cysylltu” gydag aelodau Cymreig o’r cyhoedd drwy grybwyll pobl sydd yn gyffredin iddyn nhw. Enw’r eitem yw’r “Cymru Connection”
Un alltud sy’n cysylltu- yw Elis
wrth chwilio am Gymry;
Un llais yn ein uno’n llu
a’i ddoniau’n ein diddanu.
Limrig gan Elwyn Hughes
Wrth nofio’n y Lido un diwrnod
Fe fethais â chuddio fy swildod
Pan lithrodd ‘micini
Reit lawr at ‘y nglin i
A dangos ‘y nhin i’r gwylanod.
Y Gadair - Breuddwyd gan Alwyn Harding Jones
Dylan,
yn rhwygo geiriau
o ddyfnder ei fod,
i adrodd hanes Medgar.
Saethwyd, llofruddiwyd
am sefyll,
am siarad,
am liw ei groen.
A llais tyner Baez
yn gwau
drwy nodau miniog Bobby.
‘Pam mae'r ffilm yn ddu a gwyn, Dad?’
Trigain mlynedd yn diwygio,
a'r lluniau di-liw
wedi hen lifo heibio.
Ond hiliaeth -
staen na fyn ildio.
‘Pam canu fel hyn, ac yntau’n wyn?’
Athrylith,
fel drych yn y tywyllwch:
a’i gân
yn alwad am degwch.
‘A'r un sy'n traethu?’
Brenin heb goron -
llais dwfn ag awdurdod
yn dod o waelod calon.
A chred ddigon cryf
i garthu casineb
o gylla dyn.
Anogai wlad i ddeffro,
a mynnu,
fesul un,
na fydd neb
yn ddieithryn.
‘A’i freuddwyd?’
Bechgyn a merched duon
yn dal dwylo â’r gwynion.
Heb rwystr.
Heb ofn.
Plant y caethwas,
a phlant y meistr
o amgylch un bwrdd.
Torri bara, rhannu gwin,
un teulu yn gytûn.
Muriau sy’n gwahanu
brawd wrth frawd
yn chwalu.
A lleisiau'n taranu -
'o'r diwedd, dyma ryddid'.
‘Pam y dagrau, Dad?’
Ei lais dwfn
yn cyffwrdd f’enaid.
Llais gobaith heb ei ail,
llais gwaith
a ddeffrodd fyd,
ond hir fu’r disgwyl.
Trwy waed, chwys a dagrau,
daeth Arlywydd;
gweledigaeth yn ei ysbryd,
disgleirdeb ar ei groen.
Ond hiliaeth ddi-baid
dros enw a thras
a feithrinai lid a phoen.
Cafwyd buddugoliaeth,
do, am gyfnod byr.
Yn ei dro daeth bwystfil -
casineb ym mer ei esgyrn,
a'i fryd ar chwalu’r byd.
‘Oes yna ddyfodol, Dad?’
Trwy ffydd
a llwybrau di-drais
fe ddaw’r freuddwyd
yn ffaith.
Gwaith,
nid geiriau,
a ganna’r staen.
Ac mae’r nod yn glir -
brawdoliaeth i flodeuo,
a chyfiawnder i lywio'r byd.