Rheolau yr Eisteddfod
Cyffredinol
1. Oed cystadlu:
a. Rhaid i’r cystadleuwyr fod yn y flwyddyn ysgol a nodir ar ddiwrnod yr eisteddfod (28 Mehefin 2025).
b. Rhaid i’r cystadleuwyr fod o fewn yr oedran cystadlu ar ddiwrnod yr eisteddfod (28 Mehefin 2025).
c. Does dim cyfyngiad oedran ar y cystadlaethau agored.
2. Cymraeg fydd iaith yr eisteddfod.
3. Ni thelir costau teithio cystadleuwyr.
4. Bydd ffotograffwyr yn yr eisteddfod ac yn tynnu lluniau a fideos ar gyfer ein Cyfryngau cymdeithasol. Os nad ydych am i ni dynnu eich llun neu lun eich plentyn, rhowch wybod i aelod o’r pwyllgor.
Cystadlaethau Gwaith Cartref Eisteddfod Pontypridd 2025
5. Rhaid i geisiadau cystadlaethau gwaith cartref gyrraedd erbyn Dydd Gwener 23 Mai 2025.
6. Y beirniaid ar gyfer y cystadlaethau llenyddiaeth yw Carwyn Eckley, Eurgain Haf a Cynan Llwyd, a Lowri Bunford Jones ar gyfer cystadlaethau i ddysgwyr.
7. Y beirniad ar gyfer y cystadlaethau celf yw Cai Morgan, Jack Osborne a Jessica Moss.
8. Rhaid cofrestru am bob cystadleuaeth trwy ein gwefan. Ond gallwch hefyd anfon gwaith yn yr adran lenyddiaeth drwy’r post at:
Ysgrifennydd Eisteddfod Pontypridd, 113 Parc Nantcelyn, Efail Isaf, Rhondda Cynon Taf, CF38 1AA, gan sicrhau bod unrhyw gais yn cyrraedd erbyn 23 Mai 2025.
9. Mae croeso i chi gystadlu cynifer o weithiau ag y dymunwch ym mhob cystadleuaeth. Ond cofiwch fod yn rhaid cyflwyno pob ymgais ar wahân o dan ffugenw gwahanol bob tro.
10. Ar gyfer cystadlaethau ysgrifenedig os ydych yn eu hanfon drwy’r post:
a. dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol ar frig eich ymgais, p’un a eich bod yn anfon y wybodaeth dros e-bost neu drwy’r post:
i. eich ffugenw
ii. teitl y gystadleuaeth
b. dylech gynnwys:
i. eich enw
ii. manylion pa gystadlaethau yr ydych wedi ymgeisio ynddynt, gan gynnwys y ffugenwau yr ydych wedi eu defnyddio ar gyfer pob ymgais
iii. manylion cyswllt yr ymgeisydd:
1. rhif ffôn
2. cyfeiriad e-bost
3. cyfeiriad cartref (ar gyfer unrhyw wobr)
iv. yn achos cystadlaethau i blant oed uwchradd, cynradd dylid cynnwys oed yr ymgeisydd a'r ysgol y mae'n mynychu
11. Ar gyfer cystadlaethau celf, dylech nodi:
i. eich ffugenw
ii. teitl y gystadleuaeth
iii. manylion cyswllt yr ymgeisydd:
1. rhif ffôn
2. cyfeiriad e-bost
3. cyfeiriad cartref (ar gyfer unrhyw wobr)
iv. yn achos cystadlaethau i blant oed uwchradd a chynradd dylid cynnwys oed yr ymgeisydd a'r ysgol y mae'n mynychu
12. Yn dilyn yr eisteddfod byddwn yn cyhoeddi y darnau buddugol ar ein gwefan. Os nad ydych am i’ch cais gael ei gynnwys, os ydych yn fuddugol, rhaid i chi roi gwybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno’r cais.
13. Ni fydd manylion yr ymgeisydd yn cael eu rhannu gyda’r beirniad.
14. Mae croeso i athrawon anfon ceisiadau disgyblion i gyd gyda’i gilydd. Os byddwch yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â ni ymlaen llaw. Bydd angen sicrhau bod y manylion cywir a pherthnasol gyda phob ymgais.
15. Ni chaniateir cyflwyno’r un darn mewn mwy nag un gystadleuaeth.
Llwyfan
16. Disgwylir i chi gofrestru i gystadlu ymlaen llaw drwy lenwi ffurflen ar-lein. Rhaid cofrestru erbyn y dyddiad cau, 6 Mehefin 2025.
17. Os ydych wedi cofrestru ac yn methu cystadlu bellach, dylech gysylltu â’r eisteddfod cyn gynted â phosib.
18. Mae hawl gan y Pwyllgor i gynnal rhagbrofion mewn unrhyw gystadleuaeth unigol, lle bo’r galw.
19. Fel arfer, 3 chystadleuydd unigol fydd yn ymddangos ar y llwyfan.
a. Gall y beirniaid ddewis rhoi hyd at 5 ar y llwyfan.
b. Bydd pob grŵp neu gôr yn cael cystadlu ar y llwyfan.
20. Cynhelir unrhyw ragbrofion ar ddiwrnod yr eisteddfod. Bydd y manylion yn cael eu rhannu mewn da bryd.
21. Mae angen i chi ddarparu copi o’ch darnau ar gyfer y beirniaid a’r cyfeilyddion. Dylech sicrhau fod copi o unrhwy ddarn yn cael ei uwchlwytho drwy’r ffurflen gais arlein. Os oes unrhyw broblem yn gwneud hyn, cysylltwch a’r pwyllgor. Gallwch gysylltu hefyd os ydych yn cael trafferthion anfon copi dros e-bost. Ar gyfer cerdd dant, copi o’r geiriau a’r alaw sydd ei angen.
22. Ni chaniateir cyflwyno’r un darn mewn mwy nag un gystadleuaeth.
23. Bydd cyfeilyddion swyddogol ar gael i ymgeiswyr eu defnyddio.
24. Caniateir i ymgeiswyr ddod â’u cyfeilyddion eu hunain.
25. Bydd barn y beirniad yn derfynol ym mhob achos.
26. Mae’r beirniad yn cadw’r hawl i rannu neu atal gwobrau.
27. Ni chaniateir gwneud gwrthdystiad cyhoeddus yn yr eisteddfod. Dylid anfon unrhyw wrthdystiad neu gŵyn neu wrthdystiad yn ysgrifenedig at ysgrifennydd yr eisteddfod. Bydd barn y pwyllgor yn derfynol.
28. Mae’r pwyllgor yn cadw’r hawl i dynnu cystadleuaeth oddi ar y rhaglen.
29. Ni fydd y pwyllgor yn gyfrifol am unrhyw ddamwain na cholled all ddigwydd yn ystod, neu o ganlyniad i’r eisteddfod.
30. Rhoddir beirniadaeth fer ysgrifenedig i holl gystadleuwyr y llwyfan. Bydd ar gael ar ôl yr eisteddfod.
31. Mae’n anghyfreithlon llungopïo unrhyw ddarn o gerddoriaeth.
32. Cyfrifoldeb y cystadleuwyr yw sicrhau hawlfraint unrhyw ddarn o gerddoriaeth.