EISTEDDFOD PONTYPRIDD 2025
Dydd Sadwrn 28 Mehefin 2025
Capel y Bont, Ffordd Gelliwastad, Pontypridd
Beirniaid:
Llenyddiaeth: Carwyn Eckley, Eurgain Haf, Cynan Llwyd
Celf: Cai Morgan, Jack Osborne, Jessica Moss
Cerdd: Delyth Medi, Patric Stephens
Llefaru: Garry Owen
Dysgwyr: Lowri Bunford Jones
Roc a phop - Bethany Powell
Cyfeilydd: Rhiannon Pritchard
Adran Lenyddiaeth
Cystadlaethau ar gyfer plant oed cynradd
Derbyn a Blwyddyn 1 - cystadleuaeth llawysgrifen. Ysgrifennu’r gerdd hon gyda llaw ar bapur maint A4.
Ifan bach a finne
Yn mynd i ddŵr y môr,
Ifan yn codi'i goese
A dweud fod yn dŵr yn oer.
Blwyddyn 2 - ysgrifennu darn o ryddiaith yn dechrau gyda’r geiriau Un bore braf yn yr haf…
Blynyddoedd 3 a 4 - ysgrifennu darn o ryddiaith ar thema Antur
Blynyddoedd 5 a 6 - ysgrifennu darn o ryddiaith ar thema Antur
Cystadlaethau oed uwchradd
Blynyddoedd 7, 8 a 9 - ysgrifennu darn o ryddiaith yn dechrau gyda’r geiriau Pe bawn i…
Blynyddoedd 10 ac 11 - ysgrifennu darn o ryddiaith ar thema Llwybrau
Blynyddoedd 12 a 13 - darn o ryddiaith agored
Cystadleuaeth llunio limrig o dan 18 yn dechrau neu’n gorffen gyda’r llinell Wel, dyna chi antur oedd honno
Cystadlaethau i oedolion
Limrig yn dechrau gyda’r llinell Daeth ‘Steddfod i’r fro unwaith eto
Triban Morgannwg ar thema Tri Chynnig
Englyn yn dwyn y teitl Cam
Ysgrifennu stori fer hyd at 2000 o eiriau. Gellir dewis un o’r teitlau canlynol:-
Ar lan afon
Canu’n iach
Yn y pen draw
Diwedd haf
Adran Gelf
Ffilm (agored i bob oed)
Ffilm un funud wedi ei sgriptio gydag opsiwn traethiad (narration) yn Gymraeg, am unrhyw beth i wneud â Phontypridd neu ardal Pontypridd. Dylid cynnwys 5-6 eiliad ar gyfer stori gefn.
Ffotograffiaeth (agored i bob oed)
Cyfres o ddau lun du a gwyn neu liw. Cewch gynnwys geirfa neu gelf hefyd.
Graffeg (agored i bob oed)
Dyluniwch logo Eisteddfod Pontypridd 2026 trwy addasu’r logo presennol i greu delwedd newydd. Gwobrwyir delwedd heb stereoteipiau neu symbolau amlwg (ee lluniau o dîm rygbi Pontypridd neu’r bont).
Adran Gerddoriaeth
(Oni nodir yn wahanol, un darn hunanddewisiad yw testun pob cystadleuaeth)
Cynradd
Unawd
Unawd alaw werin neu gerdd dant
Unawd offerynnol
Parti/Côr - un darn hyd at 4 munud o hyd
Uwchradd
Unawd
Unawd alaw werin neu gerdd dant
Unawd offerynnol
Parti/Côr - un darn hyd at 5 munud o hyd
Agored
Unawd agored
Unawd alaw werin neu gerdd dant
Unawd sioe gerdd
Unawd offerynnol
Parti neu gôr cerdd dant
Parti neu gôr gwerin
Côr - unrhyw gyfuniad o leisiau heb fod o dan 20 mewn nifer, rhaglen hunanddewisiad (yn Gymraeg) heb fod dros 10 munud, yn cynnwys darn gan gyfansoddwr o Gymru
1af - £500
2il - £300
3ydd £200
Adran Lefaru
Blwyddyn 3 a 4 – Dwi eisiau, Tudur Dylan Jones
Blwyddyn 5 a 6 – Anghenfil yn fy stumog, Mererid Hopwood
Blwyddyn 7, 8 a 9 – Dau ddafod y ddraig, Aneirin Karadog
Grŵp llefaru agored – detholiad o gyfarchiad barddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, Catrin Dafydd (ar gael gan y pwyllgor)
Adran y Dysgwyr
Cynradd
Llefaru unigol i ddysgwyr oedran cynradd - Hunanddewisiad
Uwchradd
Llefaru unigol i ddysgwyr oedran uwchradd - Hunanddewisiad
Dros 16 oed:
Côr neu Barti Dysgwyr - Hunanddewisiad hyd at 5 munud.
Unawd i Ddysgwyr - Hunanddewisiad hyd at 4 munud
Llefaru i Ddysgwyr - Sbectol Hud gan Mererid Hopwood
Cystadlaethau ysgrifennu ar gyfer dysgwyr ar bob lefel
Teitl: Fy mro i
Cewch ysgrifennu ar unrhyw fformat: ysgrif, llythyr, cerdd, blog, ac ati.
Lefel Mynediad:
Tua 100 o eiriau
Lefel Sylfaen:
Tua 150 o eiriau
Lefel Canolradd:
Tua 200 o eiriau
Lefel Uwch/Gloywi:
Tua 300 o eiriau
Nodwch eich lefel wrth gystadlu
Adran Roc a Phop
Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau
I fand neu artist unigol o unrhyw genre
Cân Gymraeg neu offerynnol
Set hyd at 10 munud o hyd
Cân wreiddiol neu drefniant gwreiddiol
Yn agored i fandiau neu artistiaid sydd heb ryddhau cerddoriaeth yn barod
Gwobr: Slot ar Sioe Gymraeg GTFM, sesiwn mewn stiwdio i recordio a chymysgu un gân yn Long Row Audio, Trefforest, sesiwn ymarfer yn The Green Rooms, Trefforest a pherfformio yn un o gigs Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Cân garioci Gymraeg agored
Cân gyfoes Gymraeg o'ch dewis