Englyn: Cam gan Tomos Rees
Ei hosgo sy’n betrusgar- a’i bale’n
Ebolaidd a phwyllgar.
Yn wan, fe syrthia’n gynnar,
Ond i Dad, mae’n Superstar.
Triban: Tri Chynnig i Gymro gan Menna Thomas
Tri chynnig, hyn a lwydda
Wel dyna’r goel, ontifa?
Cei lai o drafferth, creda fi,
Os llwyddi di’r tro cynta’!
Limrig gan Lynwen John
Daeth Steddfod i’r fro unwaith eto
Ond a fydd ‘na rywun yn mentro
I sgwennu dramaaaaa
‘Mond i Betsan ddweud ‘NAAAA’?
Sai’n credu bo fi’n mynd i foddro!!!
Stori Fer gan Ifan Roberts
Canu’n iach
“Gwarchod pawb! Ti wedi cloffi’n ddifrifol ers yr wythnos ddiwethaf!”
Roedd hi’n ganol dydd a chanol haf. Yn wir roedd hi ddigon agos hefyd i fod yn rhyw fath o ganol y sir. Yn wahanol i bob cyfarfod blaenorol, roedd y mwyaf gwelw o’r ddau’n hwyr yn cyrraedd heddiw.
“Dwi’n ama’ fod gen i anferth o gorn.”
“Ista lawr i mi gael golwg. Ty’d a dy gygna nes ata’i.”
Rhoddodd un ochenaid fawr wrth iddo wargrymu a chwrcwd cyn gollwng ei hun yn flinderog ar y borfa.
“Pych! Ddylat ti ddrensio rhain yng ngofar y ffynnon ’ma cyn mynd adra. Mawredd! Hwn ydio?”
“Grasusaf! Tria fod fwy tyner, greadur. Fuo ond y dim i mi regi rŵan.”
“Tria gofio pwy wyt ti.”
Wedi cyfnod o ebychu, daeth ymwared. Cododd yr herciwr ar ei draed a phwyso’n bwyllog ar wadn y droed fu’n ei boeni. Lledodd gwên ar ei wyneb gwelw wrth deimlo’r gwellhad.
“Ia. Hwnna oedd o. Fydda i fel merlyn blwydd ar y ffordd adra!”
“Hy! Y ddraenen ddu leia’ welis ti ’rioed. Neu fwyaren, ’falla’. Ciaidd, reit siŵr. Ond os ti’n mynnu cerddad yn droednoeth bob cam, be’ gynllwyn wyt ti’n ddisgwyl? Gen i rhain, wel’di - slipars gwadna lledar.”
“Ia. Beryg fod clyfrach crefftwyr pen chi o’r sir a bod nhw mhell ar y blaen i gryddion ein penrhyn tlawd ni.”
Ymlaciodd y ddau dros eu cyfarfyddiad wythnosol gan ddrachtio o ddŵr bendithiol Clorach.
“Fasat ti’n cyfri honna’n wyrth dywad?”
“Digon prin. Bendant ddim digon i gyfri tua Rhufain ’na. Na dwi’n ofni na weli di na finna ddim byd allai’n dyrchafu ni’n dau i fod yn saint.”
“Mmm. Mi fyddai’n dyfalu’n aml pam bod ni’n dau’n llusgo bob cam i fa’ma. Dydan ni’n mynd ddim mymryn iengach, gwaetha’r modd.”
“G’neud ti feddwl, yntydi? Wedi i ni fynd, tybad fydd yna rywun yn rh’wla’n cofio bod ni wedi bod yma?”
“Beryg dy fod ti’n rhyfygu rŵan, ’rhen ddyn. Man i ddwysfyfyrio ydy Clorach ’ma i fod. Er fydda innau’n cael fy amheuon weithia’.”
Bu saib o funudau cyn ailagor y drafodaeth.
“Dal i gadw’r ffydd?”
“Beryg bod hi’n haws i ti.”
“Fydda’ i’n gwegian weithia!”
“A finna’ hefyd!”
“Mae’r weddw ganol oed yna ar ganol Traeth Coch, sy’n aros amdanai bob lleuad llawn, yn dipyn o demtasiwn weithiau.”
“Cadw draw! Ges i un ddigon tebyg ochra’ acw. Amau weithia’ mae’r diafol sy’n eu hanfon nhw i’n temtio ni.”
“Hwyrach wir. Ti’n meddwl bod ni, fel hogia sengal, yn tueddu i ddenu’r gennod gor-awyddus ’ma?”
“Beryg iawn bod ni! Ond ’dio ddim yn ddrwg i gyd, ddwedwn i.”
“Dria i gofio am hynny pan ddo’ i ar draws y weddw yna ar Draeth Coch!”
Roedd dwr ffynnon Clorach yn fendithiol o oer ar anterth canol dydd. Mwy bendithiol fyth oedd cael socian eu traed yng ngofer y ffrwd cyn ystyried dychwelyd i ddau ben y sir.
“Mae’n syndod gen i fod y dwr ’ma mor oer a’r llecyn ’ma mor ddigysgod.”
“Fuo fo ‘rioed yn llecyn hawdd i un efo croen gola’ leuad fel fi. Ac mae ngwegil i’n tanio’n go arw.”
“Tasa ti, fel fi, yn gorfod wynebu’r haul fore a nawn, fasa gen ti le i gwyno. Cod dy gwfwl wrth fynd adra. Fedra i ddim g’neud hynny heb faglu o berth i boncan.”
“Na, ti’n iawn. Ond ma’ golwg hynod o iach arnat ti – a finna’ llipryn mor rhechlyd yr olwg.”
“Mmmm. Pa newydd sgen ti?”
“Fawr ddim. Ond y bydd hi’n ddifyr gweld beth mae’r brodyr ’cw wedi wneud o ail-wampio’r gell bach sydd gen i.”
“Dal wrthi, ydyn nhw?”
“Rhyw fynd a dŵad acw maen nhw a hynny pan fydd petha’n ei siwtio nhw. Ond gan mai dau frawd gwaed ydy Cynlas ac Einion, alla i ddim cwyno rhyw lawer.”
“Nhrawo fi fod gan adeiladwyr bob oes eu trefn eu hunain. A phrin byddan nhw’n newid tra bydd dynoliaeth. Be’n union maen nhw’n godi i ti?”
“Lloches rhyw flewyn yn fwy na’r hen le sydd gen i acw rŵan ond yn dal o fewn cyrraedd i ffrwd risial Trwyn Du. Cofia, dwi’n dechrau meddwl mai nid yno bydda i’n dymuno aros.”
“O?”
“Na., digon prin. Mae gen ti dy ynys dy hun i encilio iddi, on’d oes.”
“Hmm. Dim ond ar benllanw go uchel mae hi’n ynys. Rhyw fodyn o dir ydy hi ar ben ucha’r ynys fwy ’ma. A dwi’n ofni cyn hir na fydd mymryn o lanw’n ddigon i ddiogelu’r hen Frythoneg y pen acw.”
“Bosib iawn. Ma’r godre ’cw’n dechra’ denu rhai o’r tir mawr eisoes. Ond dwi’n codi’n y bora ac yn edrach tua’r dwyrain i wynebu’r lwmp o graig sydd ar Ynys Lannog. I fanno hoffwn i fynd cyn noswylio, er dyn a ŵyr be’ fydd ei henw hi maes o law. Mae pawb yn awyddus i’w hawlio hi.”
“Dallt yn iawn.”
“Ond ’dwi ddim am sôn wrth yr hogia, dim ond derbyn y lloches newydd yn raslon.”
“Da was. Doeth iawn. Gad i ni ddeud gair bach tawel.”
Gyda bwrlwm y ffrwd ymron a boddi murmur undonog eu llafargan, bu munudau di-ymgom. Yna, cododd y ddau fynach eu pennau.
“Cybi. Ti’n meddwl bydd ’na unrhyw enaid yn cofio amdanon ni mhen canrifoedd?”
“Ti’n holi hyn bob tro ydan ni yma. Ond rydwi inna’ hefyd yn amau! Wedi’r cwbl – pam dylan nhw?”
“Beryg bod ti’n iawn. Sgen i ddim cof am unrhyw ddigwyddiad allai ddyrchafu’r naill na’r llall ohonon ni’n sant.”
“Na finna’ – dim un, gwaetha’r modd. Ond nid dyna pam ydan ni fod yma, ’sti.”
“Hmm. Na.”
Cododd Seiriol ei olygon tua’r haul.
“Falla bod yn well inni ddechra’ meddwl am ei throi hi? Ydio ryw bwrpas, ar ôl i mi fod mor ddiflas, i ni drefnu i fod yma’r wythnos nesa?”
“Seiriol, bach! Fasa beryg i ni golli rhyw obaith am wyrth tasa ni’n peidio â chyfarfod.”
“Ti’n llygaid dy le. Fydd raid i mi geisio dwad yma’r tro nesa’n fwy gobeithiol.”
“A chadw di’n glir o lwyni drain duon - a gweddwon Traeth Coch!”
“Dewis anodd. Dwi wedi loetran unwaith neu ddwy rhy agos i’r naill a’r llall.”
Heb ragor o eiriau, cododd y ddau, cofleidio’i gilydd a throi i ddychwelyd. Un yn ffyddiog tua’r machlud a’r llall yn obeithiol tua gwawr y bore canlynol.