Rydych chi bellach wedi profi eich strategaeth ar raddfa gymharol fychan. Cyn i chi weithio tuag at weithredu’r strategaeth hon ar raddfa fwy mae gennych gyfle i adolygu a newid y gweithdrefnau a’r prosesau sy’n cefnogi’r gweithredu mewn ymateb i’ch gweithrediad peilot yng ngham 3.
Cadarnhau bod nodau’r strategaeth yn realistig, yn gyraeddadwy ac yn uchelgeisiol.
Sicrhau bod y prosesau sy’n sail i weithredu’r strategaeth yn effeithiol ac effeithlon.
Casglu adborth gan ymarferwyr a oedd yn rhan o gam 3
Gwerthuso cynnydd trwy deithiau dysgu/craffu ar waith gyda’r athrawon/adrannau allweddol perthnasol
Diwygio’r strategaeth os oes angen
Adrodd yn ôl i’r UDA/Corff Llywodraethu
Pa mor llwyddiannus oedd gweithredu ar raddfa fechan cam 3?
A oes angen i chi addasu eich nodau strategol neu’ch disgwyliadau?
A yw’r prosesau sy’n rhan o’r gweithredu yn ddigon syml i eraill eu dilyn?
Beth weithiodd yn effeithiol a beth gallwch chi ei ddefnyddio i enghreifftio i weddill yr ysgol?
A ydych chi wedi adnabod strwythur ar gyfer arweinyddiaeth a fydd yn hwyluso gweithredu ar raddfa fwy?