Rydych nawr yn barod i symud tuag at weithrediad llawn eich strategaeth. Er mwyn cyflawni hyn bydd angen i chi lunio cynllun a fydd yn caniatáu i chi gefnogi adrannau ac ymarferwyr i wreiddio'r strategaeth yn llwyddiannus.
Helpu nifer cynyddol o adrannau/ymarferwyr i weithredu’r strategaeth.
Sicrhau ansawdd a chysondeb mewn darpariaeth lythrennedd ar draws MDaPh
Mapio darpariaeth yr ysgol yn erbyn y disgwyliad gwaelodlin fel y’i gosodir yn y strategaeth
Trefnu sesiynau cymorth i gynllunio
Monitro cynnydd trwy deithiau dysgu/craffu ar waith
Ar ba gyflymdra wnewch chi ymestyn hyn tuag at weithredu ar lefel ysgol gyfan?
Pa risgiau ydych chi wedi’u hadnabod a allai arafu eich cynnydd?
A yw’r broses o ehangu yn eich galluogi i gynnig y gefnogaeth angenrheidiol i athrawon/adrannau?
Sut wnewch chi sicrhau cynnal momentwm yn yr adrannau y dylent eisoes fod yn gweithredu’r strategaeth?
Sut wnewch chi adrodd am gynnydd i bob aelod staff?
Sut wnewch chi sicrhau bod eich gweithgareddau monitro, gwerthuso ac adolygu yn cyd-fynd â cham hwn y broses a’u bod yn eich helpu i fesur effaith eich strategaeth?
Cynllunio eich cwricwlwm (Hwb)
Cynllunio eich cwricwlwm (Hwb)
Cynllunio eich cwricwlwm (Hwb)
Cynllunio eich cwricwlwm (Hwb)