O fis Medi 2022 mae sgiliau trawsgwricwlaidd bellach yn elfen fandadol o’r Cwricwlwm i Gymru. Felly, rhaid i ysgolion wreiddio sgiliau trawsgwricwlaidd ar draws pob maes dysgu, gan sicrhau bod dysgwyr yn datblygu'n raddol eu sgiliau a’u gallu i ddefnyddio’r sgiliau hyn mewn amryfal gyd-destunau.
Mae’r adnodd hwn yn eich arwain trwy broses ar gyfer datblygu dull ysgol gyfan o ddatblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd. Gall ysgolion benderfynu dilyn y broses gyfan, tra bydd rhai yn dymuno dilyn adrannau penodol. Bydd yr adnodd yn arwain ysgolion tuag at gyflawni’r nodau canlynol:
Sicrhau bod dilyniant o fewn sgiliau trawsgwricwlaidd wedi’i wreiddio ar draws bob maes dysgu a phrofiad.
Cryfhau dull strategol yr ysgol o ddatblygu sgiliau trawsgwricwlaidd.
Meithrin atebolrwydd a disgwyliadau uchel o ran safonau mewn sgiliau trawsgwricwlaidd.
Bydd y broses hon yn eich tywys trwy gamau creu, gweithredu ac adolygu strategaeth ysgol gyfan ar gyfer gwreiddio sgiliau a’u datblygu ar draws y cwricwlwm. Mae’r broses yn gyfres o nodau ac ystyriaethau yn bennaf. Bydd rhoi amryfal gamau’r broses ar waith a’u gweithredu yn amrywio o ysgol i ysgol. Er enghraifft, bydd sawl ffactor yn rheoli’r camau hyn, fel maint yr ysgol, strwythur yr arweinyddiaeth, y ddarpariaeth bresennol, gwybodaeth a dealltwriaeth athrawon o sgiliau trawsgwricwlaidd ac ati.