Mae'r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am amrywiol ddulliau hunan arfarnu, monitro, adolygu a gwerthuso mewn perthynas â llythrennedd mewn ysgolion. Mae nifer o ddulliau gweithredu yma ac nid oes disgwyl i chi ddefnyddio pob un ohonynt. Bydd eich cynllun monitro yn nodi pa ddulliau y byddwch yn eu defnyddio, pryd y byddwch yn eu defnyddio ac i ba pwrpas trwy gydol y flwyddyn.