Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am wahanol ddulliau monitro, adolygu a gwerthuso y gellir eu defnyddio, gan restru manteision pob dull.
Mae'n hanfodol bwysig eich bod yn nodi pwrpas eich gweithgarwch monitro, adolygu a gwerthuso drwy ddewis trywydd ymholi penodol, yn hytrach na bod yn broses benagored.
Dyma groestoriad o wahanol drywyddau ymholi y gallwch eu defnyddio yn ystod eich gweithgareddau monitro, adolygu a gwerthuso. Mae'n bwysig nad ydych yn ceisio ateb popeth ar yr un pryd, ond yn hytrach yn dewis rhai cwestiynau i ganolbwyntio arnynt. Gallwch ddewis un neu fwy o gwestiynau ymholiad i geisio ateb:
Beth yw safon gwaith dysgwyr? A yw hyn yn gyson uchel ar draws yr ysgol?
A yw disgyblion yn cyflawni yn ôl y disgwyl?
A yw safonau gwaith yn dangos dilyniant ar draws yr ysgol? e.e. a yw dysgwyr yn datblygu eu sgiliau Llythrennedd wrth iddynt symud drwy'r ysgol?
A yw safon datblygiad sgiliau Llythrennedd yn gyson ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad?
I ba raddau y mae dysgwyr yn gallu trafod eu medrau a'u cyflawniadau? Er enghraifft, ydyn nhw'n defnyddio termau pwnc penodol yn effeithiol neu'n defnyddio geirfa dechnegol yn gywir wrth egluro.
A yw dysgwyr yn dangos y gallu i ddefnyddio medrau Llythrennedd priodol yn annibynnol, er enghraifft yn unol â disgwyliadau yn ôl oedran / lefel gallu?
A yw dysgwyr yn gallu gwneud penderfyniadau addas wrth ddewis strategaethau Llythrennedd priodol i gwblhau eu gwaith?
I ba raddau mae athrawon / staff yn modelu disgwyliadau o safbwynt Llythrennedd i'r dysgwyr? A yw gwneud hyn yn arwain at godi safonau?
I ba raddau mae'r cwricwlwm wedi'i ddylunio er mwyn arwain at gynnydd dysgwyr?
A oes cysondeb ar draws yr ysgol o ran cynnwys ffocws penodol ar ddatblygu sgiliau Llythrennedd ym mhob pwnc?
A yw'r adborth ar waith adeiladol a phwrpasol i gefnogi datblygiad sgiliau Llythrennedd ar draws y cwricwlwm?
A yw cynlluniau’n canolbwyntio ar ddatblygu medrau Llythrennedd ar draws y cwricwlwm ac a yw hyn yn gyson ar draws yr ysgol?
A gynllunnir profiadau dysgu i ddatblygu medrau Llythrennedd yn gynyddol?
A yw sgiliau Llythrennedd yn cael eu cynllunio'n rhan o brofiadau dilys ac integredig o fewn y cwricwlwm ym mhob maes MDPh?
A oes cyfleoedd i sicrhau'r lefel briodol o her i ddysgwyr?
Dyma nifer o ddulliau amrywiol y gellir eu defnyddio i fonitro, adolygu a gwerthuso dysgu ac addysgu ac ateb y trywydd ymholi dan sylw. Mae gan bob dull ei fanteision ac mae'n debygol y byddwch yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau yn ystod y flwyddyn er mwyn sicrhau bod gennych ddarlun llawn o'r maes. Mae’r ffordd y mae pob ysgol yn defnyddio’r dulliau hyn ychydig yn wahanol, ond mae’r pwyntiau isod yn disgrifio’n fras sut mae pob un yn cael ei rhoi ar waith:
Beth?
Yn ystod taith ddysgu byddwch yn ymweld â gwahanol ystafelloedd dosbarth i weld yr addysgu a’r dysgu ar waith. Gallwch wneud ymweliadau byr ag ystafelloedd dosbarth i ddatblygu dealltwriaeth o'r gwersi a gyflwynir. Byddwch yn siarad â dysgwyr i gael darlun llawn o'r broses ddysgu yn ogystal â chlywed eu barn am y gwaith a'u hyder wrth ei gwblhau. Gellir cynnal taith ddysgu ar draws yr ysgol gyfan, neu gall ganolbwyntio ar ystod oedran neu adrannau penodol. Mewn rhai achosion, mae rhagrybuddio athrawon ynglŷn â'r ffocws neu'r maes dan sylw cyn cynnal y daith ddysgu yn arfer effeithiol, er mwyn sicrhau bod y ffocws neu'r maes dan sylw ar waith yn ystod y wers. Byddai hyn yn sicrhau eich bod yn gallu arsylwi mwy o ffactorau i gyfrannu at eich ymholiad, ac yn eich helpu i ddod i farn ar yr hyn yr ydych yn ei arsylwi.
Manteision?
Cyfle i adolygu a gwerthuso addysgu a dysgu
Digon o gyfleoedd i siarad â dysgwyr
Cyfle i weld a yw lefel yr her yn darparu dilyniant ar draws yr ystod oedran dan sylw
Cyfleoedd i nodi arfer effeithiol i'w rannu
Cyfle i werthuso cysondeb
Cael blas o sut mae'r maes dan sylw yn edrych ar draws yr ystod oedran / adrannau dan sylw
Beth?
Wrth graffu ar waith, byddwch yn edrych ar waith dysgwyr dros gyfnod o amser. Gallwch ganolbwyntio ar drawstoriad o ddysgwyr, neu ar ystod oedran penodol. Mewn rhai achosion, byddwch yn gwneud hyn ochr yn ochr â'r dysgwyr. Gall hyn fod yn fuddiol i'ch galluogi i gasglu mwy o wybodaeth am y tasgau dan sylw.
Manteision?
Cyfle i wirio nifer o agweddau: cysondeb, safonau, addysgeg, y dysgu
Cyfle i weld cyflawniad dysgwyr dros gyfnod mwy estynedig o amser
Cyfle i gymharu safonau a sicrhau dilyniant ar draws yr ysgol
Cyfle i weld yr ystod o brofiadau
Beth?
Byddwch yn cyfweld â thrawstoriad o ddysgwyr. Gall hyn fod ar draws ystod o oedrannau. Gallwch gyfweld pawb gyda'i gilydd, ond gall hefyd fod yn effeithiol cyfweld ar sail grŵp blwyddyn / dosbarth. Wrth gyfweld bydd cyfle i drafod gwaith dysgwyr gyda nhw, a’r gobaith yw y bydd dysgwyr yn gallu egluro’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni, gan ddefnyddio terminoleg pwnc ac iaith dechnegol yn gywir. Byddwch yn gallu gweld hyder dysgwyr wrth iddynt ddod o hyd i dasgau amrywiol, a gweld a oes cysondeb yn y ffordd y mae eu gwaith yn cael ei rannu a'i storio. Gallwch drafod yr adborth a gânt, a sut mae hyn yn eu helpu i ddysgu a gwella safon eu gwaith
Manteision?
Cyfle uniongyrchol i siarad â dysgwyr am eu gwaith a'u cynnydd yn eu sgiliau Llythrennedd
Cyfle i glywed barn dysgwyr am y ffordd y cânt eu cefnogi i wneud cynnydd yn eu sgiliau Llythrennedd
Cyfle i drafod sut mae'r addysgu wedi arwain at ddilyniant mewn safonau
Cyfleoedd i drafod y sgiliau hyn mewn cyd-destun bywyd go iawn, er enghraifft, sefyllfaoedd ble y gallai defnyddio'r sgiliau hyn fod yn ddefnyddiol ac ati
Beth?
Wrth adolygu rhaglenni astudio a chynlluniau gwaith, byddwch yn edrych trwy bob cynllun gwaith sy'n cynnwys ffocws ar ddatblygu sgiliau Llythrennedd. Rhaid sicrhau bod profiadau sy'n targedu sgiliau penodol o safon uchel ac yn datblygu sgiliau Llythrennedd ar draws y cwricwlwm cyfan.
Manteision?
Cyfle i ddatblygu syniadau ymhellach
Sicrhau cysondeb a dilyniant mewn profiadau dysgu
Sicrhau lefel briodol o her, i herio dysgwyr ar draws yr ysgol.
Cyfle i adnabod dosbarthiadau / adrannau sydd angen cefnogaeth bellach