Mae hunan arfarnu yn ffordd effeithiol o ganfod gwaelodlin eich ysgol. Trwy ailadrodd y broses dros amser, gall fod yn ffordd effeithiol o fesur effaith gweithredu. Trwy hunan arfarnu gall ysgol nodi cryfderau a gwendidau yn rhwydd, a gall hyn gyflymu’r broses o benderfynu pa agweddau sydd angen eu targedu yn y tymor byr, canolig a hir. Yn amlach na pheidio, mae prosesau hunan arfarnu yn adolygu'r agweddau dan sylw ar draws yr ysgol gyfan. Mae’n gyfnod hanfodol er mwyn canfod gwybodaeth sy'n sail i strategaeth neu gynllun strategol er mwyn datblygu’r agweddau sydd i gael sylw ar draws yr ysgol. Data meintiol sy’n cael ei gasglu fel arfer yn ystod proses hunan arfarnu, felly mae’r sgil o ddadansoddi data yn hollbwysig. Bydd cyfleoedd hefyd i gasglu gwybodaeth ansoddol, felly rhaid ystyried y wybodaeth hon hefyd wrth ddadansoddi eich canlyniadau.
Enghreifftiau o gwestiynau allweddol i'w gofyn i chi'ch hun wrth hunan arfarnu, defnyddiol i'w rhannu gyda'r UDA i'w hystyried yn eu hunan arfarniad ysgol gyfan ac ar gyfer MDPh/arweinwyr adran yn eu hunan arfarniad adrannol:
A yw datblygu llythrennedd yn flaenoriaeth yn ein cynllun gwella?
A oes gennym ni ddull cyson o ddatblygu medrau llythrennedd dysgwyr ar draws y cwricwlwm?
A yw ein cynllunio yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu sgiliau llythrennedd ar draws y cwricwlwm?
A yw ein cynlluniau gwaith yn dangos dilyniant wrth ddatblygu sgiliau dysgwyr?
Pa mor effeithiol ydyn ni’n asesu gallu llythrennedd dysgwyr?
Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth o asesu llythrennedd i gynllunio gweithgareddau sy’n herio pob disgybl, gan gynnwys y rhai mwy galluog?
A yw cynlluniau pontio'n cefnogi cysondeb a dilyniant mewn sgiliau llythrennedd dysgwyr?
A oes gan athrawon y medrau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gynllunio ar gyfer cynnydd mewn llythrennedd a'i adnabod?
Gall cynnal awdit fod yn ffordd effeithiol a chyflym o werthuso sefyllfa'r ysgol o ran agwedd benodol. Gellir anfon holiadur arlein (e.e. Google Forms neu MS Forms) a’i anfon at y gynulleidfa darged er mwyn casglu data. Mae canlyniadau’r awdit cyntaf yn caniatáu i’r ysgol adnabod y gwaelodlin a’r agweddau sydd angen eu targedu, yn ogystal ag arfer effeithiol i’w rhannu. Trwy ail ymweld â'r awdit yn rheolaidd (unwaith y flwyddyn, er enghraifft) gallwch fesur effaith, yn ogystal ag effaith gweithredu yn ystod y cyfnod hwn.
Gall archwiliad fod yn ffordd effeithiol o werthuso’r agweddau canlynol:
Gellir cynnal awdit sgiliau staff fel ysgol unigol neu fel clwstwr
Gellir gwahaniaethu'r awdit sgiliau i ganolbwyntio ar wahanol gyfrifoldebau (e.e. Uwch arweinwyr / arweinwyr canol / Athrawon / Cynorthwywyr Dysgu). Nodi bylchau neu anghenion cyffredin y mae angen eu targedu
Gall y canfyddiadau fwydo i gynllun dysgu proffesiynol yr ysgol
Cyfle i adolygu sgiliau yn ogystal â hyder yr unigolyn
Cyfle i nodi anghenion hyfforddi staff
Cyfle i arfarnu ystod y profiadau y mae staff yn hyderus yn eu cynllunio a hefyd i nodi bylchau
Gall y canfyddiadau fwydo i gynllun dysgu proffesiynol yr ysgol
Cyfle i lywio’r ddarpariaeth trwy ddefnyddio llais y dysgwr
Cyfle i werthuso hyder y dysgwyr
Arfarnu teimladau'r dysgwyr ynglŷn â'u profiadau - A ydynt yn dechrau adnabod y strategaethau llythrennedd sy'n cefnogi eu dysgu ar draws y cwricwlwm? A ydynt yn meddwl eu bod yn gwneud cynnydd yn eu medrau llythrennedd? A allant roi enghreifftiau o ganolbwyntio ar lythrennedd yn effeithiol y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth yn Adran y Gymraeg neu'r Adran Saesneg?