Beth yw adroddiad cynnydd?
Yn dilyn unrhyw weithgaredd monitro, adolygu neu werthuso mae'n bwysig eich bod yn adrodd ar gynnydd. Gall adroddiad cynnydd gyfeirio at:
safonau dysgwyr
safonau addysgu
cynnydd yn erbyn amcanion strategol yn y maes, er enghraifft diwygio cynlluniau gwaith, datblygu systemau/trefniadau newydd ac ati
Pwrpas adroddiad cynnydd yw casglu canfyddiadau eich gweithgarwch monitro, adolygu a gwerthuso er mwyn nodi cryfderau yn ogystal â meysydd i'w datblygu. Pan fyddwch yn ysgrifennu eich adroddiad cynnydd mae'n bwysig eich bod yn cyfeirio'n fanwl at y blaenoriaethau yr ydych wedi penderfynu canolbwyntio arnynt a chyfeirio at y dystiolaeth a welwyd yn ystod eich gweithgaredd monitro sydd wedi llywio eich barn. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn ysgrifennu'n arfarnol er mwyn sicrhau bod cryfderau / gwendidau yn gwbl glir.
Ar ddiwedd yr adroddiad byddwch yn nodi argymhellion i ddatblygu'r maes ymhellach. Bydd yr argymhellion hyn yn cael eu hymgorffori yn eich cynllun strategol, a bydd disgwyl i chi fanylu ar y camau sydd eu hangen i gyflawni’r gwelliant dan sylw.
Dyma rai awgrymiadau i'ch cynorthwyo i ysgrifennu eich adroddiadau:
Defnyddiwch iaith gryno ac arfarnol bob amser
Byddwch yn glir wrth ddweud eich barn – defnyddiwch eirfa arfarnol i gyfleu eich barn yn glir, er enghraifft cynnydd gwan / cryf /sylweddol
Byddwch yn onest - peidiwch â bod ofn cynnwys sylw negyddol. Mae angen cyfleu unrhyw wendidau arwyddocaol, yn ogystal ag adnabod cryfderau.
Peidiwch â defnyddio brawddegau hir ac iaith amwys
Mae canllaw ysgrifennu Estyn yn cynnig arweiniad ar sut i ysgrifennu adroddiadau llwyddiannus. Mae’n bwysig eich bod yn ceisio defnyddio’r un arddull ysgrifennu ag Estyn wrth lunio’ch adroddiad.